Mae bachgen wyth oed wedi codi £770 i Ambiwlans Awyr Cymru er mwyn diolch i'r elusen am helpu i achub ei fywyd. 

Dim ond dwy oed oedd Cian Evans, o Bontardawe, pan gafodd ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru mewn hofrennydd, wedi iddo fod mewn damwain ar yr M4 ger Port Talbot. Bu farw ei fam, Rebecca Evans, yn yr un ddamwain. 

Torrodd Cian ei ddwy goes, torrodd ran o'i benglog a bu gwaedu rhwng ei ymennydd a'i benglog.

Er gwaethaf anafiadau erchyll, brwydrodd Cian ac mae bellach yn fachgen wyth oed hapus ac iach, sydd wrth ei fodd yn chwarae pêl-droed ac yn chwarae yn yr awyr agored.

Yn ôl ym mis Ebrill, ymunodd Cian ag ymgyrch codi arian flynyddol Ambiwlans Awyr Cymru, Cerdded Cymru - her gerdded rithwir lle bu’n rhaid iddo gerdded 100k drwy gydol mis Mai.

Dywedodd Alex, ei dad, fod Cian yn hynod awyddus i gymryd rhan, ar ôl iddo dyfu i fyny yn gwybod am sut roedd Ambiwlans Awyr Cymru wedi helpu i achub ei fywyd a’r gwaith hanfodol mae’r Elusen yn ei wneud. Pan oedd Cian yn dair oed aeth i agoriad swyddogol pencadlys yr Elusen yn Nafen, Llanelli, lle cyflwynodd jar o fêl lleol i Dywysog Cymru ar y pryd, y Brenin Charles III.

Dywedodd: "Pan mae Cian yn gweld yr hofrennydd yn yr awyr, mae e' bob amser yn dweud, 'dyna fy hofrennydd i' ac yn dweud wrth bobl ei fod wedi cwrdd â'r Brenin! Pan ddywedom wrtho am Cerdded Cymru roedd e'n teimlo'n gyffrous i gymryd rhan. Fe wnaethom grys-t personol iddo a phrynodd oriawr glyfar gyda'i arian ei hun er mwyn cadw golwg ar ei gilometrau.

“Cefais fy synnu pa mor dda yr ymgymerodd â’r her yn enwedig am fod mis Mai wedi dechrau’n lawog ac yn oer. Cerddai bob dydd ac roedd yn cerdded cilomedrau cyn ysgol a rhwng ei sesiynau ymarfer pêl-droed a'i gemau.

“Fe wnes i elwa llawer ohono hefyd. Roedd yn braf iawn mynd gyda Cian a mwynhau treulio amser gwerthfawr gyda'n gilydd fel tad a mab. Rwy'n hynod falch ohono. Doeddwn i ddim yn disgwyl i Cian godi cymaint o arian ac rwy'n hynod o falch drosto. Roedd Cian yn teimlo'n gyffrous i dderbyn ei fedal ac mae eisoes yn edrych ymlaen at y digwyddiad codi arian nesaf!

“Rwy’n dal i synnu mai Elusen yw'r gwasanaeth, a'i fod yn dibynnu ar roddion cyhoeddus i weithredu. Yn anffodus, mae gennym brofiad personol o ba mor hanfodol yw’r gwasanaeth a byddem yn annog pobl i gyfrannu at Ambiwlans Awyr Cymru.”

Gofynnodd Cian, sy'n mynychu Ysgol Gynradd Abbey, Castell-nedd, i ffrindiau a theulu ei noddi ac roedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'w gefnogwyr drwy bostio lluniau a negeseuon fideo ar y cyfryngau cymdeithasol bob wythnos. Cwblhaodd Cian  yr her drwy ddringo i ben Mynydd Pen y Fan am y tro cyntaf.

Cododd Her Cerdded Cymru gyfanswm o £28,257 wrth i bobl gofrestru i gymryd rhan a chyfrannu at yr Elusen. Mae angen i Ambiwlans Awyr Cymru godi £8 miliwn y flwyddyn i sicrhau y gall barhau â'i waith achub bywyd.

Dywedodd Cian ei fod wedi mwynhau cymryd rhan yn her Cerdded Cymru yn fawr.

Dywedodd: “Roeddwn i eisiau cymryd rhan yn yr her oherwydd fe wnaethon nhw achub fy mywyd pan oeddwn i'n iau. Roedd e'n anodd ond yn hwyl. Es i â Bear a Poppy, fy nau gi, ar y teithiau cerdded ac roedden nhw'n bendant wedi mwynhau!

“Fy hoff deithiau cerdded oedd cerdded i fyny mynyddoedd Pen y Fan a Chorn Du ym Mannau Brycheiniog, camlas Castell-nedd lle gwelais lawer o bysgod, ac fe wnes i hyd yn oed weld lamas wrth gerdded. Rwy’n falch fy mod wedi codi £770 gan ffrindiau, teulu, a llawer o bobl garedig eraill.

“Byddwn i'n cymryd rhan yn Her Cerdded Cymru eto a hoffwn godi mwy o arian i Ambiwlans Awyr Cymru. Mae’n bwysig oherwydd mae’n helpu llawer o bobl os ydynt yn cael eu hanafu’n wael ac yn gorfod mynd i’r ysbyty. Diolch i bawb yn Ambiwlans Awyr Cymru am fy helpu i a phobl eraill ledled Cymru.”

Ers sefydlu'r Elusen ar 1 Mawrth, 2001, mae wedi ymateb i fwy na 45,000 o alwadau ac yn darparu gwasanaeth brys 24 awr y dydd i'r rheini sy'n wynebu salwch neu anafiadau sy'n peryglu bywyd. 

Yn cael ei hadnabod fel ‘Adran Argyfwng Hedfan’ oherwydd y gofal a arweinir gan feddygon ymgynghorol y mae’n ei gynnig, mae’r gwasanaeth ambiwlans awyr yng Nghymru yn cael ei ddarparu drwy bartneriaeth Trydydd Sector a Sector Cyhoeddus unigryw.

Ychwanegodd Alex: “Rydym yn fythol ddiolchgar i Ambiwlans Awyr Cymru oherwydd pe na bai’n bodoli efallai na fyddai Cian yma gyda ni heddiw.”