Cyhoeddwyd: 14 Mawrth 2024

Mae Ascona Group wedi cyrraedd ei darged codi arian o £100k ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru ac yn falch o fod wedi adnewyddu ei gefnogaeth i'r elusen.

Mae Ascona Group ('Ascona'), y 7fed gweithredwr cwrt blaen annibynnol mwyaf yn y DU ac un o'r cwmnïau sydd wedi tyfu gyflymaf yng Nghymru am y tair blynedd diwethaf, wedi gwneud rhodd arall o £50,000 i'w bartner elusennol, Ambiwlans Awyr Cymru, wrth iddo gyrraedd ei darged codi arian uchelgeisiol yn y flwyddyn ariannol 2023/24.

Ers i Ascona wneud y rhoddion cychwynnol o £10,000 ym mis Mawrth 2023 a £40,000 ym mis Tachwedd 2023, mae wedi gwneud rhodd arall yn dilyn llwyddiant ei weithgareddau codi arian ledled ei bortffolio o gyrchfannau manwerthu ochr ffordd gwych dros y misoedd diwethaf

Gyda'i gilydd, cyrhaeddodd Ascona ei darged codi arian anhygoel o £100,000 ar gyfer yr elusen dros gyfnod y bartneriaeth blwyddyn o hyd.

Mae elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn cael ei harwain gan feddygon ymgynghorol, ac mae'n mynd â thriniaethau o safon ysbyty at y claf ac, os oes angen, yn ei drosglwyddo'n uniongyrchol i'r ysbyty mwyaf priodol ar gyfer ei salwch neu ei anaf. I'r claf, gall hyn arbed oriau o gymharu â gofal safonol ac mae'n cynyddu'r tebygolrwydd y bydd yn goroesi ac yn gwella'n gynnar yn sylweddol.

Darperir y gwasanaeth drwy bartneriaeth unigryw rhwng y Trydydd Sector a'r Sector Cyhoeddus. Mae’r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) yn darparu meddygon ymgynghorol ac ymarferwyr gofal critigol hynod fedrus gan y GIG sy’n gweithio ar gerbydau’r Elusen. 

Parhaodd Ascona i ddangos ei gefnogaeth i'r elusen sy'n achub bywydau drwy adnewyddu eu partneriaeth, ac maent unwaith eto wedi ymrwymo i godi £100,000 yn y flwyddyn ariannol nesaf.

Dywedodd Darren Briggs, Sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol Ascona Group: "Rwyf wrth fy modd ein bod wedi gallu gwneud rhodd sylweddol arall i'r elusen hanfodol hon. Dros y 12 mis diwethaf, gwnaethom lwyddo i gyrraedd ein targed codi arian uchelgeisiol ac rydym yn falch iawn o adnewyddu ein partneriaeth ag Ambiwlans Awyr Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol 2024/25.

"Y tro hwn, rydym yn disgwyl codi £100,000 arall ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru, a fydd yn helpu i sicrhau y gall yr elusen ragorol hon barhau i roi gofal meddygol sy'n achub bywydau i bobl ledled Cymru. Ers lansio Ascona yn 2011, mae cefnogi ein cymunedau lleol wedi bod wrth wraidd popeth a wnawn ac felly rwy'n falch iawn ein bod yn parhau i chwarae rôl mor weithredol wrth gefnogi elusennau fel Ambiwlans Awyr Cymru, sy'n gwneud cymaint o wahaniaeth i gymunedau ledled Cymru."

Caiff Ambiwlans Awyr Cymru ei ariannu gan bobl Cymru, ac mae'n dibynnu'n gyfan gwbl ar roddion elusennol i godi £11.2 miliwn bob blwyddyn er mwyn cadw'r hofrenyddion yn yr awyr a'r cerbydau ymateb cyflym ar y ffordd ledled Cymru.

Mae Ambiwlans Awyr Cymru wedi ymateb i fwy na 43,000 o alwadau ac rydym ar gael 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn.

Dywedodd Dr Sue Barnes, Prif Weithredwr Ambiwlans Awyr Cymru: "Rydym yn ddiolchgar iawn am lefel y gefnogaeth rydym wedi ei chael gan Ascona eleni. Bu gweithio gydag Ascona ar ein partneriaeth dros y flwyddyn ddiwethaf yn brofiad cadarnhaol a gwerth chweil, ac rydym yn falch o gael parhau â'r berthynas hon am y 12 mis nesaf.

"Ar ran yr holl griw, staff a'r cleifion, hoffwn ddiolch i dîm cyfan Ascona am eu gwaith caled dros y misoedd diwethaf, yn ogystal ag i bawb a wnaeth gyfrannu. Oni bai am yr help gan sefydliadau fel Ascona, ni fyddai ein helusen yn bodoli."