18/04/2023

Mae elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn falch o fod wedi cael ei dewis fel Partner Elusen Ascona Group ('Ascona') am y 12 mis nesaf.

Mae Ascona, un o'r gweithredwyr blaengwrt sy'n tyfu gyflymaf yn y DU, wedi cyhoeddi mai Ambiwlans Awyr Cymru fydd ei bartner Elusen ar gyfer y flwyddyn ariannol 2023/24.

Mae Ambiwlans Awyr Cymru  yn dibynnu ar roddion elusennol i godi £8 miliwn y flwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr a chadw'r cerbydau ymateb cyflym ar y ffordd.

Er mwyn dathlu'r bartneriaeth hon, mae Ascona wedi rhoi rhodd gychwynnol o £10,000.

Dros y 12 mis nesaf, gellir talu rhodd o 25 ceiniog drwy beiriannau cerdyn ar draws pob safle Ascona yng Nghymru, ac mae'r cwmni wedi ymrwymo i gyfateb pob rhodd hyd at gyfanswm o £50,000. Byddant hefyd yn hyrwyddo Loteri Achub Bywydau'r Elusen.

Yn ogystal, bydd Ambiwlans Awyr Cymru yn rhannu'r elw o gronfa Nisa Retail 'Making a Difference Locally', y disgwylir iddo ddod i gyfanswm o £10,000 ychnwaegol o'r cyfraniad a ddaw o bryniannau a wneir yn safleoedd Ascona yng Nghymru.

Mae Ascona yn disgwyl codi dros £100,000 i Ambiwlans Awyr Cymru, drwy'r holl weithgareddau codi arian bwriadedig.

Bydd y bartneriaeth yn helpu i gefnogi'r elusen Gymreig yn ei nod o ddarparu gofal meddygol sy'n achub bywydau i bobl ledled Cymru, pryd bynnag neu ble bynnag y bydd ei angen arnynt.

Dywedodd Darren Briggs, Prif Weithredwr Ascona Group: "Ers i ni ddechrau Ascona nôl yn 2011, mae cefnogi ein cymunedau lleol wedi bod yn ganolog i'n diwylliant ac felly rydym yn falch o gefnogi Elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn ei gwaith hanfodol wrth iddi barhau i ddarparu gofal meddygol sy'n achub bywydau.

"Dros y blynyddoedd, rydym wedi codi a rhoi dros £200,000 i wahanol elusennau sy'n helpu cymunedau Cymreig a'u pobl ac rydym wirioneddol yn gyffrous i wneud gwahaniaeth i elusen mor eiconig ag Ambiwlans Awyr Cymru, ein helusen partner am y 12 mis nesaf.

Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn rhoi gofal critigol uwch ledled Cymru sy'n cael ei ddarparu drwy bartneriaeth unigryw rhwng y trydydd sector a'r sector cyhoeddus, rhwng Elusen Ambiwlans Awyr Cymru, a'r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS Cymru). 

O ganlyniad, mae'r gwasanaeth yn un a arweinir gan feddygon ymgynghorol a gaiff ei adnabod fel ‘adran achosion brys sy'n hedfan’, gan fynd â thriniaethau o safon ysbyty i'r claf ar safle'r digwyddiad. Mae hyn yn cynnwys y gallu i roi anesthesia, trallwyso gwaed a chynnal llawdriniaethau bach, a hyn oll ar safle digwyddiad. 

Dywedodd Siany Martin, Swyddog Codi Arian Corfforaethol yn Ambiwlans Awyr Cymru: "Rydym wrth ein bodd bod Ascona wedi ein dewis fel elusen y flwyddyn. Er y gwaith hanfodol mae ein pobl yn ei gyflawni'n ddyddiol, ni chawn unrhyw gyllid uniongyrchol, ac felly rydym yn dibynnu'n llwyr ar y gefnogaeth gan bobl Cymru er mwyn sicrhau y gallwn barhau i'w gwasanaethu. Ynghyd â gweddill y tîm, hoffwn ddiolch i Darren a phawb yn Ascona am eu rhodd hael iawn a'u cefnogaeth barhaus.