Mae artist rhyngwladol wedi gwneud defnydd da o'i ddoniau anhygoel drwy werthu paentiad hardd i gefnogi elusen sy'n achub bywydau.

Mae Terence Lambert, o bentref Llan, Powys, wrthi'n cynnal arddangosfa mewn oriel yn yr Amgueddfa Celfyddyd Fodern ym Machynlleth. Cynhelir arddangosfa'r artist bywyd gwyllt adnabyddus hyd at 17 Medi.

Mae ei baentiad ‘Long Tailed Tits’, sy'n costio £850, yn seiliedig ar rywbeth y mae Terence wedi'i fwynhau erioed - nodi dyfodiad y gwanwyn. Dywedodd: “Pob Gwanwyn, pan mae'r cynffonau ŵyn bach yn blaguro, mae'n rhaid i mi nodi'r newid yn y tymhorau drwy eu paentio. Rwy'n hoff iawn o baentio'r titw cynffon hir, aderyn bach cyffredin ond trawiadol.

“Bydd gwerthiant y paentiad hwn yn cael ei roi i Ambiwlans Awyr Cymru, gwasanaeth argyfwng hynod bwysig i'r ardal wledig yma yng Nghanolbarth Cymru.”

Lansiwyd gyrfa Terence Lambert ar ddechrau'r 70au gyda darluniau ar gyfer y gyfres 'Collins Books of British Birds'. Cafodd ei gydnabod yn gyflym fel dawn bwysig newydd ym myd paentio adaryddiaeth. Ar gyfer prosiectau yn y gorffennol aeth ar deithiau ar draws yr Himalayas, Affrica, Gogledd Affrica ac i Oman lle cafodd ei gomisiynu i greu chwe phaentiad mawr i Swltan Oman. Ymysg y casglwyr mawr eraill mae'r McCartneys a'r teulu Astor.

Mae Terence wedi bod yn cefnogi Elusen Ambiwlans Awyr Cymru ers cryn amser drwy roi rhodd fisol i'r achos da ers sawl blwyddyn. Fodd bynnag, dyma'r tro cyntaf iddo godi arian i'r Elusen fel hyn.

Cysylltodd Dougie Bancroft, un o swyddogion codi arian cymunedol Ambiwlans Awyr Cymru, â Terence i weld a fyddai'n fodlon cefnogi'r elusen sy'n achub bywydau 24/7, ychwanegodd Terence: “Gwelais hyn fel cyfle i gefnogi gwasanaeth hynod bwysig i ardal wledig canolbarth Cymru. Mae hwn wir yn wasanaeth sy'n achub bywydau. Mae gennym brofiad personol lle cafodd cyfaill da a ffermwr lleol ddamwain a beryglodd ei fywyd ar feic cwad yn ddiweddar, ac mae'n debygol na fyddai wedi goroesi heb y gwasanaeth.”

Mae gwasanaeth brys Ambiwlans Awyr Cymru yn cynnig gofal critigol uwch a chaiff ei ddisgrifio'n aml fel ‘Adran Achosion Brys sy'n Hedfan’. Mae'r meddygon ymgynghorol a'r ymarferwyr gofal critigol yn fedrus iawn, ac yn cario rhai o'r offer meddygol mwyaf arloesol yn y byd. Mae ganddynt y gallu i drallwyso gwaed, rhoi anesthesia a chynnal llawdriniaethau brys ar safle'r digwyddiad, cyn hedfan y claf yn uniongyrchol i gael gofal arbenigol.   

Dywedodd Dougie Bancroft o Ambiwlans Awyr Cymru: “Rwyf wrth fy modd bod Terence am helpu i godi arian i'n Helusen. Mae Terence yn artist rhyngwladol anhygoel, ac mae ei baentiadau yn ardderchog. Mae'r paentiad 'Long Tailed Tits' yn hyfryd ac yn ogystal â bod yn bryniant hyfryd i rywun, bydd y person sy'n prynu'r paentiad yn gallu gwneud hynny gan wybod ei fod yn helpu i achub bywydau ledled Cymru. Bydd rhodd y paentiad hwn yn ein helpu i gadw ein pedair hofrennydd yn yr awyr a chadw ein cerbydau ymateb cyflym ar y ffordd. Diolch yn fawr iawn, Terence, rydym wir yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth.”   

Mae sawl ffordd y gall y cyhoedd barhau i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys rhoddion ar-lein, ymuno â Loteri Achub Bywydau'r Elusen neu drwy feddwl am eu ffyrdd arloesol eu hunain o godi arian gartref. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.ambiwlansawyrcymru.com.

Fel arall, gellir tecstio'r gair HELI i 70711 er mwyn rhoi £5.

I gael rhagor o wybodaeth am arddangosfa Terence Lambert: Natur yn y Manylion, ewch i https://moma.cymru/e/terence-lambert-natur-yn-y-manylion/