Mae artist amatur hunanddysgedig wedi parhau i ddefnyddio ei doniau i godi arian i Ambiwlans Awyr Cymru er cof am ei mab.

Penderfynodd Margaret Worrell godi arian i Ambiwlans Awyr Cymru er cof am ei mab, Ian, a fu farw mewn gwrthdrawiad traffig ffyrdd yn 2007. Roedd gan Ian wraig a dau fab ifanc.

Mae'r fam-gu o Aberystwyth wedi paentio oddeutu 40 o gardiau o'i gwaith gwreiddiol i Ambiwlans Awyr Cymru .

Yn ddiweddar, cyflwynodd Margaret a'i gŵr Jim siec am £1,000 i feddygon a pheilot Ambiwlans Awyr Cymru yng ngorsaf awyr y Trallwng, yn ogystal â cherdyn pen-blwydd i ddathlu 21 mlynedd ers sefydlu'r Elusen, a oedd yn cynnwys lluniau o'i phaentiadau.

Dechreuodd Margaret baentio cyn iddi ymddeol o'i swydd nyrsio ac, ers dechrau codi arian i'r Elusen, mae wedi codi swm anhygoel o £7,050 i'r gwasanaeth 24/7 sy'n achub bywydau.

Mae Margaret a Jim yn gefnogwyr brwd o Ambiwlans Awyr Cymru. O ganlyniad i gyfyngiadau COVID, bu'n rhaid i'r ddau ohonynt aros am amser hir cyn y gallent gwrdd â'r meddygon a'r criw yng nghanolfan yr elusen yn y Trallwng.

Mae Margaret hefyd yn defnyddio ei doniau i greu paentiad i'w roi ar y wal yn swyddfa codi arian yr Elusen.Mae Margaret yn ddiolchgar am y gefnogaeth y mae wedi'i chael gan bobl leol yn ystod ei hymgyrch codi arian, lle bu'n gwerthu ei gwaith ledled Cymru.

Wrth drafod pwysigrwydd Elusen Ambiwlans Awyr Cymru, dywedodd: “Rwy'n teimlo bod y gwasanaeth y mae Ambiwlans Awyr Cymru yn ei ddarparu yn hollbwysig, yn enwedig yn ardaloedd gwledig Cymru, oherwydd nid yw'r un ohonom yn gwybod pryd y gallai fod angen y gwasanaeth arnom.”

Dathlodd Ambiwlans Awyr Cymru ei ben-blwydd yn 21 oed ar Ddydd Gŵyl Dewi. Gan fod yr Elusen bellach yn gweithredu 24/7, mae angen iddi godi £8 miliwn y flwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr.

Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn cynnig gofal critigol uwch a chaiff ei ddisgrifio'n aml fel ‘Adran Achosion Brys sy'n Hedfan’. Mae'r meddygon ymgynghorol a'r ymarferwyr gofal critigol yn fedrus iawn, ac yn cario rhai o'r offer meddygol mwyaf arloesol yn y byd. Mae ganddynt y gallu i drallwyso gwaed, rhoi anesthesia a chynnal llawdriniaethau brys ar safle'r digwyddiad, cyn hedfan y claf yn uniongyrchol i gael gofal arbenigol.

Dywedodd Dougie Bancroft, un o Swyddogion Codi Arian Cymunedol Ambiwlans Awyr Cymru: “Diolch i chi Margaret am barhau i godi arian i'n helusen. Er gwaethaf colled ei theulu, mae Margaret yn meddwl am bobl eraill y gall fod angen i'r Elusen eu helpu. Mae paentiadau Margaret yn hardd dros ben, ac mae ei chardiau yn wych. Rhoddodd gerdyn hyfryd i'n criw yn ystod yr ymweliad â chanolfan yr elusen ym Maes Awyr y Trallwng, ac roedd pawb yn hoff iawn ohono.

“Diolch o galon i Margaret, ei theulu a phawb sydd wedi cefnogi ei hymgyrch codi arian. Mae pob un ohonoch yn ein helpu i sicrhau y gallwn barhau i wasanaethu pobl Cymru pan fydd arnynt ein hangen fwyaf. Mae wedi codi swm anhygoel o £7,050 i Ambiwlans Awyr Cymru. Diolch yn fawr.”