Mae Ambiwlans Awyr Cymru wedi penodi ei brentisiaid cyntaf erioed yn Warws Cwmdu yn Abertawe.

Mae Jack Tancock, Finley Edwards a Leon Neilly wedi cael eu cyflogi fel prentisiaid Gweithwyr Cynaliadwyedd Warws yr Elusen.

 Jack, 20, o Abertawe oedd prentis cyntaf erioed yr Elusen ym mis Medi, a dechreuodd Finley a Leon ar eu gwaith ym mis Chwefror.  

 Fel rhan o’u rolau newydd, mae'r tri yn dysgu amrywiaeth o agweddau gwahanol ar waith yr Elusen wrth ennill profiad a chymwysterau. Mae’r prentisiaid yn gweithio tuag at ddiploma lefel 2 y Bwrdd Hyfforddi a Chynghori’r Diwydiant Rheoli Gwastraff (WAMITAB) mewn ailgylchu a chynaliadwyedd warws.   

Dywedodd Michelle Morris, Cyfarwyddwr Pobl a Datblygiad Trefniadol yr Elusen: ”Rydym wedi ymrwymo i Ddeddf Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru drwy’r prosiectau strategol sydd wedi’u cynnwys yn ein rhaglenni Ymgysylltu Ieuenctid a Chynaliadwyedd. Mae hyn yn cynnwys rhoi cyfleoedd i bobl ifanc i sicrhau cyflogaeth ystyrlon a chyfleoedd ar gyfer datblygu. Mae ein rhaglen prentisiaeth yn darparu hyn;  cynigia gyfle ardderchog i bobl ifanc ddysgu “yn y swydd”, derbyn cyflog ac ennill cymwyster gwerthfawr ac achrededig. Mae’r ffocws ar gynaliadwyedd o fewn y rolau yma hefyd yn atgyfnerthu ein ffocws strategol ar ddatblygu agenda werdd. 

“Tra bod nifer o gynlluniau prentisiaeth yn para am gyfnod, rydym yn edrych ar y tymor hir, ac yn cynnig cyfleoedd i’n prentisiaid ddod yn aelodau parhaol o’r gweithlu ar ôl cwblhau eu cymhwyster yn llwyddiannus.   

“Byddwn yn parhau i greu cyfleoedd pellach ar gyfer prentisiaethau, yn creu partneriaethau tymor hir gyda chyrff addysgol (ysgolion, colegau a phrifysgolion), grwpiau ieuenctid a phobl ifanc, a darparwyr hyfforddiant er mwyn datblygu rhaglenni a fydd yn denu’r ymgeiswyr gorau.”  

Dywedodd Jack: ”Rwy eisiau gwneud y brentisiaeth er mwyn dysgu mwy a chael mwy o brofiad ar fy C.V., gan ennill arian ar yr un pryd. Mae gweithio i Ambiwlans Awyr Cymru yn rhoi boddhad mawr i mi a byddwn yn annog pobl ifanc i wneud cais am brentisiaethau gyda’r Elusen er mwyn eu helpu i fagu mwy o brofiad.”  

 Yn ôl Shaun Gower, rheolwr Jack, Finley a Leon: “Mae hon yn rôl gyffrous i’r prentisiaid am nad yw’n ymwneud yn gyfan gwbl â gwaith warws. Mae’n cynnwys diploma lefel 2 proffesiynol 12 mis mewn ailgylchu cynaliadwy, sy’n agor y drws i ymgeiswyr i ennill diplomâu uwch yn y dyfodol.

“Rwy’n teimlo’n hynod obeithiol o safbwynt y prentisiaid. Mae ganddyn nhw botensial arbennig i fod yn ddyfodol i Ambiwlans Awyr Cymru.”  

Yn ystod y saith mis diwethaf, mae Jack wedi dysgu, ymysg pethau eraill, sut i adnabod rhoddion addas, nid yn unig ar gyfer y siopau, ond hefyd ar gyfer llwyfan e-fasnach yr Elusen, sy’n cynnwys unrhyw beth o fric-a-brac i ddillad. 

O safbwynt rhan ailgylchu ei rôl, mae’n dysgu sut i adnabod eitemau i'w hailgylchu, sydd hefyd yn creu incwm i'r Elusen.  

Dathlodd Ambiwlans Awyr Cymru ei ben-blwydd yn 21 oed ar Ddydd Gŵyl Dewi. Gan fod yr Elusen bellach yn gweithredu 24/7, mae angen iddi godi £8 miliwn y flwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr.

Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn cynnig gofal critigol uwch a chaiff ei ddisgrifio'n aml fel ‘Adran Achosion Brys sy'n Hedfan’. Mae'r meddygon ymgynghorol a'r ymarferwyr gofal critigol yn fedrus iawn, ac yn cario rhai o'r offer meddygol mwyaf arloesol yn y byd. Mae ganddynt y gallu i drallwyso gwaed, rhoi anesthesia a chynnal llawdriniaethau brys ar safle'r digwyddiad, cyn hedfan y claf yn uniongyrchol i gael gofal arbenigol.

Roedd Leon yn falch i ychwanegu: "Hyd yn hyn, mae’r brentisiaeth wedi bod yn mynd yn arbennig o dda ac mae bod yn rhan o’r fath elusen falch yn brofiad anhygoel. Dangosodd yr ymweliad â Dafen i fi pa mor bwysig yw’r gwaith rwy’n ei wneud. Rwy'n edrych tuag at y dyfodol.”  

 Yn ôl Finley, 17, o Bontlliw: Y bythefnos ddiwethaf yw’r cyfnod gorau rwy wedi’i gael yn y gweithle am fy mod i’n gweithio gyda chymaint o bobl arbennig. Rwy wedi dysgu cymaint o bethau newydd ers dod yma, ac yn edrych ymlaen at weld beth arall ddaw. 

 “Penderfynais wneud cais am y rôl hon am fy mod i eisiau gosod her i fi fy hun o drio rhywbeth newydd a dyna’n union beth wnes i.”  

Mae sawl ffordd y gall y cyhoedd barhau i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys rhoddion ar-lein, ymuno â Loteri Achub Bywydau'r Elusen neu drwy feddwl am eu ffyrdd arloesol eu hunain o godi arian gartref. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.ambiwlansawyrcymru.com.

Fel arall, gellir tecstio'r gair HELI i 70711 er mwyn rhoi £5.