Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn diolch yn fawr i'w gwirfoddolwyr am y cyfraniad hanfodol y maent yn ei wneud at waith yr elusen sy'n achub bywydau.

Daw'r ganmoliaeth wrth i'r Elusen ddathlu Wythnos Genedlaethol y Gwirfoddolwyr, sy'n rhedeg o ddydd Iau 1 Mehefin tan ddydd Iau 8 Mehefin.

Bellach yn ei 39ain blwyddyn, mae'r wythnos yn cydnabod y miloedd o wirfoddolwyr ledled y DU sy'n rhoi o'u hamser i helpu elusennau a sefydliadau.

Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn dibynnu ar ei gwirfoddolwyr mewn sawl ffordd ac mae eu cefnogaeth yn helpu i sicrhau y gall y gwasanaeth weithredu 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, 365 diwrnod y flwyddyn, er mwyn darparu gofal critigol i rai o'r bobl sydd wedi cael yr anafiadau a'r salwch mwyaf difrifol ledled Cymru.

Dywedodd Sandra Hembery, Rheolwr Datblygu Gwirfoddolwyr Ambiwlans Awyr Cymru: “Mae ein gwirfoddolwyr yn bwysig iawn i ni. Maent yn genhadon i'r Elusen, ac yn rhoi eu hamser i ni mewn sawl ffordd i godi ymwybyddiaeth ac arian ar gyfer ein gwaith hanfodol sy'n achub bywydau.

“Rydym yn gwerthfawrogi ein criw bach ond hynod ymroddedig o wirfoddolwyr drwy gydol y flwyddyn, ond mae Wythnos Genedlaethol y Gwirfoddolwyr yn rhoi cyfle ardderchog i ddweud wrth arwyr ein Helusen eu bod yn bobl wych sy'n agos iawn at ein calonnau.

Mae sawl rôl wirfoddoli wahanol yn Ambiwlans Awyr Cymru ac mae pob un yn cynnig rhywbeth yn ôl.

Mae Graham Hirst yn wirfoddolwr brwdfrydig iawn gydag Ambiwlans Awyr Cymru.  Ar ôl gwirfoddoli am 15 mlynedd, mae Graham yn wyneb cyfarwydd iawn ym Mhencadlys yr Elusen yn Nafen, Llanelli.

Mae llawer wedi newid ers i Graham ddechrau troi ei law at wirfoddoli. Ond yr hyn sydd heb newid yw ei ymrwymiad llwyr i'r achos.  Gellir dibynnu arno bob amser i helpu lle y gall wneud. Mae ei dasgau yn cynnwys cynnal amrywiaeth o sgyrsiau â grwpiau, trefnu bocsys arian a helpu gydag ymgyrchoedd yn rheolaidd.

Penderfynodd Graham, o Dreboeth, Abertawe, wirfoddoli ar ôl ymddeol yn gynnar.

Dywedodd: “Rwy'n gweithio gyda chriw gwych o bobl. Mae nhw'n ymroddedig iawn. Rwy'n teimlo - pan fyddaf yn gweld yr hofrennydd yn codi - ei fod yn hyfryd! Rydyn ni'n rhan o hynny. Caiff bywydau pobl eu hachub oherwydd ein gwirfoddolwyr.”

Mae gwirfoddolwyr hefyd yn rhoi o'u hamser drwy weithio yn siopau Ambiwlans Awyr Cymru. Mae Gillian Naylor wedi bod yn helpu yn siop yr Elusen yng Nghaernarfon ers mis Chwefror 2022.

Mae hi bob amser wedi gwneud blancedi, ond yn ddiweddar mae wedi creu hetiau bobl a beanie ar gyfer y siop a hyd yn oed yn mynd ati i drwsio ac addurno fâs a oedd wedi cracio a chrosio blodyn haul arni.

I Gillian, mae gwirfoddoli yn gyfle defnyddiol i wneud defnydd o'i chreadigrwydd, ond mae hefyd yn gyfle iddi helpu gyda'r hyn mae ei ystyried yn achos da iawn.

Dywedodd: “Rwy wrth fy modd yn siarad â phobl – pobl sy'n dod i'r siop sydd angen cyngor ac eisiau prynu rhywbeth. Mae llawer o bobl yn dod i mewn am sgwrs.”

Mae rôl Ymddiriedolwr yr Elusen yn un wirfoddol hefyd. Dywedodd Dave Gilbert, Cadeirydd yr Ymddiriedolwyr: “Mae'n wir i ddweud mai eich amser yw un o'r rhoddion gorau y gallwch ei rhoi i rywun. Yr angerdd a'r ymrwymiad a ddangosir gan ein gwirfoddolwyr yw rhai o'r prif resymau pam y mae Ambiwlans Awyr Cymru wedi llwyddo i fynychu dros 45,000 o alwadau dros y 22 mlynedd diwethaf. Am hynny, ni allaf ddiolch digon iddynt.

“Rwy'n falch o fod yn wirfoddolwr i'r elusen anhygoel hon ac yn gwybod bod fy nghyd Ymddiriedolwyr yn teimlo'r un ffordd.”

Mae angen i Ambiwlans Awyr Cymru godi £8 miliwn y flwyddyn i barhau â'i wasanaeth achub bywydau i bobl Cymru.

Ychwanegodd Sandra: “Mae gwirfoddoli yn gyfle ardderchog i wneud ffrindiau, meithrin sgiliau a chael profiadau newydd, ac mae'n edrych yn wych ar eich CV. Gall gael effaith gadarnhaol ar eich llesiant, yn ogystal â chael effeithiau buddiol ar eraill.

“Nid oes angen profiad blaenorol a gallwch ddewis yr oriau y byddwch yn gwirfoddoli. Os ydych dros 18 mlwydd oed, yn frwdfrydig, ac yn awyddus i gefnogi'r Elusen, byddem wrth ein bodd petaech yn cymryd rhan.

 “Drwy wirfoddoli gyda ni, byddwch yn helpu i godi proffil Ambiwlans Awyr Cymru, yn helpu eraill yn y gymuned, ac yn helpu'r Elusen i barhau i achub bywydau ledled Cymru.”  

Os hoffech wybod mwy, cysylltwch â Sandra a Rhian yn y tîm gwirfoddoli ar [email protected]