Cyhoeddwyd: 05 Medi 2023

Mae Wythnos Ambiwlans Awyr Cymru 2023 yn mynd yn ei blaen ledled y DU o 4 i 10  Medi i godi ymwybyddiaeth o'r gwaith achub bywydau a wneir gan elusennau ambiwlans awyr ledled y DU.

Yn ystod yr wythnos, bydd Ambiwlans Awyr Cymru yn ymuno ag elusennau ambiwlans awyr eraill ledled y Deyrnas Unedig i  rannu'r neges hanfodol "Ni allwn achub bywydau hebddoch chi!"

Mae'r ymgyrch yn dangos sut mae elusennau ambiwlans awyr, megis Ambiwlans Awyr Cymru, angen cefnogaeth y cyhoedd er mwyn  parhau i roi gofal uwch i bobl ag anafiadau neu salwch sydyn sy'n bygwth bywyd, cyn mynd i'r ysbyty, gan helpu i achub bywydau a gwella canlyniadau'r cleifion. 

Dywedodd Sue Barnes, Prif Weithredwr Ambiwlans Awyr Cymru: "Ni yw'r unig elusen ambiwlans awyr sy'n ymrwymedig i Gymru. I ni, mae i Wythnos Ambiwlans Awyr ddau nod. Yn gyntaf, codi ymwybyddiaeth o'r gwaith hanfodol sy'n achub bywydau a wneir gan ambiwlansys awyr ledled y DU.

"Yn ail, ein galluogi i gydnabod a diolch i'r rheini sy'n gwneud ein gwasanaeth yn bosibl. Hebddyn nhw, ni fyddai gwasanaeth ambiwlans awyr ar gael yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys ein gweithwyr, gwirfoddolwyr ac Ymddiriedolwyr, yn ogystal â'n GIG a'n partneriaid hedfan. Hefyd, ein cefnogwyr anhygoel ledled y wlad, sydd wedi cymryd at Ambiwlans Awyr Cymru a dangos angerdd aruthrol tuag at yr Elusen a'r hyn rydym yn ei wneud.

"Ar ran yr Elusen, a'r holl gleifion rydym wedi eu trin dros y 22 flwyddyn ddiwethaf, hoffwn ddiolch i bob un ohonoch.   Rydych yn achub bywydau. Gyda'ch cefnogaeth gyson, fe wnawn barhau i gynnal a gwella ein gwasanaeth sy'n achub bywydau, sydd wedi dod mor hanfodol i Gymru. 

"Ein nod yw bod yna i chi, a bydd hynny'n parhau am byth, lle bynnag a phryd bynnag mae ein hangen arnoch."

Ers sefydlu yn 2001, mae Ambiwlans Awyr Cymru wedi ymateb i fwy na 46,000 o alwadau ledled y wlad. Mae'r Elusen yn dibynnu'n llwyr ar roddion gan y cyhoedd i godi £11.2 miliwn y flwyddyn i gadw ei hofrenyddion yn yr awyr a chadw ei cherbydau ymateb cyflym ar y ffordd.

Mae'r Gwasanaeth yn cynnig gofal critigol uwch a chaiff ei ddarparu drwy bartneriaeth unigryw rhwng y Trydydd Sector a'r Sector Cyhoeddus, rhwng Elusen Ambiwlans Awyr Cymru a'r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS Cymru).

Arweinir Ambiwlans Awyr Cymru gan feddygon ymgynghorol, sy'n darparu triniaeth o safon ysbyty i'r claf.  Mae hyn yn cynnwys y gallu i roi anesthesia, trallwyso gwaed a chynnal llawdriniaethau bach, a hyn oll ar safle digwyddiad. Disgrifir y Gwasanaeth yn aml fel ‘adran achosion brys sy'n hedfan’.

Mae Wythnos Ambiwlans Awyr yn cael ei threfnu gan Ambiwlansys Awyr y DU, sefydliad sy'n hyrwyddo gwaith 21 o elusennau ambiwlans awyr y DU sy'n achub bywydau.

Mae sawl ffordd o gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys rhoddion ar-lein, ymuno â Loteri Achub Bywydau yr Elusen, neu drwy feddwl am ffyrdd arloesol o godi arian. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.ambiwlansawyrcymru.com.