Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn gwahodd pobl i ddathlu bywyd rhywun annwyl y maent wedi ei golli drwy noddi ei enw ar gastell cofio Forget-Me-Not sydd wedi'i ddylunio'n arbennig.

Bydd y deyrnged flodeuol unigryw yn un o 30 o gerfluniau o gestyll sydd wedi'u haddurno a fydd yn cael eu harddangos ar lwybr celf cyhoeddus hirddisgwyliedig Castles in the Sky yn Abertawe yr haf hwn.

Y digwyddiad hwn i'r teulu sy'n rhad ac am ddim yw'r cyntaf o'i fath yn Abertawe a'i nod yw denu miloedd o bobl i'r ddinas dros gyfnod o 10 wythnos o 8 Gorffennaf hyd at 16 Medi.

Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn cynnal y prosiect Wild in Art, menter sydd wedi dod yn stori lwyddiant ryngwladol wrth godi arian elusennol drwy ei chelf gyhoeddus greadigol a chymunedol.

Bydd Castell Forget-Me-Not yn cael ei ddylunio a'i greu gan Diana R Brook, artist o Arberth, a fydd yn paentio enw pob anwylyn yn unigol â llaw ar betalau'r blodyn glas y gors (na'd fi'n angof) fel rhan o'r ymgyrch Flowers of Remembrance.

Yn draddodiadol, mae'r blodyn bach eiddil yn gysylltiedig â'r weithred o gofio yn ogystal â chariad a chyfeillgarwch.

Yn ogystal â rhoi cyfle i bobl brynu lle gwag ar y castell a gweld enw eu hanwyliaid ar y llwybr yr haf hwn, bydd y castell cofio yn cael ei symud a'i arddangos y tu allan i bencadlys Ambiwlans Awyr Cymru yn Nafen, Llanelli, wedi'r digwyddiad.

Cost pob nawdd yw £50, sy'n cynnwys rhoi enw ar Gastell Forget-Me-Not, cerdyn diolch a hadau blodyn n'ad fi'n angof. Bydd enwau'r anwyliaid hefyd yn cael eu cynnwys ar blac a gaiff ei osod ar waelod y castell yn ogystal â thudalen we Forget-Me-Not yr Elusen yn ambiwlansawyrcymru.com.

Dywedodd Diana R Brook ei bod yn bleser cael cyfrannu at ddigwyddiad Castles in the Sky a'i bod yn edrych ymlaen at gymryd rhan yn yr ymgyrch Flowers of Remembrance.

Dywedodd: “Ar ôl gweld pa mor hyfryd oedd y llwybrau Wild in Art eraill ledled y wlad mae'n gyffrous cael cymryd rhan yn y prosiect a dod â chelf i'r ddinas.

“Byddaf yn paentio pob blodyn â llaw ar y castell ac yna'n ychwanegu pob enw unigol. Mae'r blodyn n'ad fi'n angof mor dlws a chain.

“Rwy'n siŵr y bydd yn edrych yn hyfryd ac y bydd ymdeimlad ceramig iddo bron. Mae'n ffordd arbennig o gofio am anwylyd ac yn ogystal â chodi arian, bydd hefyd yn codi ymwybyddiaeth ac yn cyfrannu at ddigwyddiad hanesyddol.”

Bydd yr holl arian a godir yn mynd tuag at yr Elusen achub bywydau, nad yw'n cael unrhyw arian gan y llywodraeth ac sy'n dibynnu ar roddion gan y cyhoedd i gadw ei hofrenyddion yn yr awyr a'i cherbydau ymateb cyflym ar y ffordd.

Bob blwyddyn mae angen i Ambiwlans Awyr Cymru godi £8 miliwn i ddarparu gofal critigol uwch ledled Cymru.

Dywedodd Siany Martin, Swyddog Codi Arian Corfforaethol yn Ambiwlans Awyr Cymru: “Mae'n bleser gennym gyhoeddi lansiad ein hymgyrch Flowers of Remembrance a fydd yn cynnwys castell Forget-Me-Not arbennig a gaiff ei greu i gofio am anwyliaid nad ydynt gyda ni mwyach.

“Mae'n bleser gennym weithio gyda'r artist amryddawn Diana R Brook, a fydd yn paentio pob enw unigol ar betalau blodau n'ad fi'n angof â llaw ac yn trawsnewid y castell yn ddarn hyfryd o gelf flodeuol. Wrth noddi enw, yn ogystal â helpu i godi arian ar gyfer ein Helusen achub bywydau, byddwch hefyd yn talu teyrnged deimladwy a hyfryd i ffrind neu aelod arbennig o'r teulu.

“Bydd miloedd o bobl yn ymweld â chanol dinas Abertawe dros yr haf i fynychu digwyddiad Castles in the Sky a fydd yn arddangos rhai o weithiau'r artistiaid mwyaf talentog. Rydym yn teimlo y bydd Castell Forget-Me-Not yn ychwanegiad perffaith i'r llwybr a bydd yn rhoi cyfle i ffrindiau a theulu ddod ynghyd i weld enw eu hanwylyd yn yr hyn y disgwylir iddo fod yn un o'r llwybrau celf mwyaf ysblennydd i ddod i Abertawe.”

Drwy ychwanegu enw eich anwylyd, byddwch yn ychwanegu pennod newydd i'w stori a bydd eu hatgof yn fyw yn ein gwaith.

Am ragor o wybodaeth, neu i noddi enw ar Gastell Forget-Me-Not, ewch i walesairambulance.com/flowersofremembrance