Mae elusen sy'n helpu i gynorthwyyo achosion a sefydliadau meddygol wedi rhoi mwy na £9,600 i Ambiwlans Awyr Cymru. 

Cyflwynodd Hospital Saturday Fund grant o £9,610 i Elusen ambiwlans awyr sy'n achub bywydau er mwyn prynu Helmedau Alpha 900 Chwilio ac Achub ar gyfer y criw.

Mae'r helmedau yn gyfarpar hanfodol ar gyfer diogelwch ac maent yn galluogi'r criw i ymateb i alwadau yn gyflym ac yn effeithiol. Maent yn amddiffyn y pen, yn sicrhau cyfathrebu o fewn y tîm ac â chleifion, ac yn darparu golau gyda'r nos ar gyfer galwadau achub. 

Caiff pob helmed ei addasu'n unigol ac maent yn costio £2,000 yr un.

Cyflwynodd Hospital Saturday Fund y grant i Ambiwlans Awyr Cymru er mwyn helpu'r gwasanaeth i barhau â'r gwaith sy'n achub bywydau ac i helpu'r tîm i gael y cyfarpar mwyaf cyfredol.

Dywedodd Dee Wright, Rheolwr Elusennau a Digwyddiadau Hospital Saturday Fund: “Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn dibynnu'n gyfan gwbl ar roddion elusennol er mwyn cadw eu hofrenyddion yn yr awyr a chadw'r cerbydau ymateb cyflym ar y ffordd. 

“Gan gydnabod ymrwymiad ac angerdd anhygoel pob aelod o'r tîm a'r gwaith gwych y maent yn ei wneud fel elusen, roedd yn anrhydedd i Hospital Saturday Fund roi grant o £9,610 er mwyn prynu Helmedau Alpha 900 Chwilio ac Achub i'r meddygon a'r ymarferwyr gofal critigol.”

Mae Hospital Saturday Fund wedi rhoi mwy na £21,000 i Ambiwlans Awyr Cymru ar hyd y blynyddoedd. 

Mae'r Gronfa yn darparu cymorth i elusennau iechyd cofrestredig, hosbisau, sefydliadau meddygol ac unigolion sydd â chyflwr meddygol neu anabledd ac mae hefyd yn rhoi grantiau ar gyfer prosiectau meddygol, gofal, gwaith ymchwil neu gymorth ar gyfer hyfforddiant meddygol. Ar gyfer unigolion, mae'r elusen yn darparu cymorth i brynu cyfarpar arbenigol neu fathau o driniaethau.

Yn 2024, bydd grantiau gwerth cyfanswm o £2.3m yn cael eu rhoi i achosion haeddiannol gan Hospital Saturday Fund.

Mae angen i Ambiwlans Awyr Cymru godi £11.2miliwn y flwyddyn i gadw'r gwasanaeth yn weithredol.Caiff ei harwain gan feddygon ymgynghorol, ac mae'n mynd â thriniaethau o safon ysbyty at y claf ac, os oes angen, yn ei drosglwyddo'n uniongyrchol i'r ysbyty mwyaf priodol ar gyfer ei salwch neu anaf. I'r claf, gall hyn arbed oriau o gymharu â gofal safonol ac mae'n cynyddu'r tebygolrwydd y bydd yn goroesi ac yn gwella'n gynnar yn sylweddol.

Mae'r gofal critigol uwch hwn yn cynnwys y gallu i roi anesthesia, trallwyso gwaed a chynnal llawdriniaethau bach, a hyn oll ar safle digwyddiad. Yn aml, caiff y Gwasanaeth ei ddisgrifio fel ‘adran achosion brys sy'n hedfan’, ond gall hefyd ddarparu gofal o'r un safon ar y ffordd drwy ei fflyd o gerbydau ymateb cyflym.

Darperir y gwasanaeth 24/7 hwn drwy bartneriaeth unigryw rhwng y Trydydd Sector a'r Sector Cyhoeddus. Mae’r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) yn darparu meddygon ymgynghorol ac ymarferwyr gofal critigol hynod fedrus gan y GIG sy’n gweithio ar gerbydau’r Elusen.  

Fel gwasanaeth ledled Cymru, bydd y criwiau ymroddedig yn teithio ar hyd a lled y wlad i ddarparu gofal sy'n achub bywyd mewn argyfwng.

Dywedodd Hannah Mitchell, Rheolwr Ymgysylltu Cefnogwyr Ambiwlans Awyr Cymru: “Rydym yn hynod ddiolchgar i Hospital Saturday Fund am y cymorth parhaus ac am gyflwyno grant o £9,610 i brynu helmedau. Heb y cyfarpar hyn, ni fyddai'r criw yn gallu hedfan. 

“Mae Hospital Saturday Fund wedi rhoi cyllid grant gwerth mwy na £21,000 i'n helusen ers 2017 ac rydym yn gwerthfawrogi'r holl help a'r cymorth. Bydd y grant yn helpu Ambiwlans Awyr Cymru i barhau i wasanaethu pobl Cymru am sawl blwyddyn i ddod.”