11/06/2020

Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn diolch i wirfoddolwyr, ddoe a heddiw, am eu cyfraniadau a'u gwaith i'r Elusen.

Wythnos Genedlaethol y Gwirfoddolwyr yw hi yr wythnos hon (Mehefin 1-7) ac, fel nifer o elusennau, mae Ambiwlans Awyr Cymru yn dibynnu ar wirfoddolwyr i gefnogi ei weithgareddau codi arian.

Mae miloedd o bobl wedi gwirfoddoli i Ambiwlans Awyr Cymru, ar wahanol adegau, dros y 19 blynedd diwethaf. Ynghyd â staff ymrwymedig yr Elusen, maent wedi helpu i godi'r £6.5 million sydd ei angen bob blwyddyn er mwyn sicrhau y gall ein ‘criw meddygol yn yr awyr’  barhau i hedfan.

Mae'r Elusen yn hynod ddiolchgar i'w holl wirfoddolwyr a roddodd o'u hamser, boed hynny'n 1 awr yr wythnos neu’n 20 awr.

Dywedodd Michelle Morris, Pennaeth Adnoddau Dynol a Gwirfoddoli yr Elusen: ‘Mae ein gwirfoddolwyr yn rhoi o'u hamser gwerthfawr i gefnogi ein helusen sy'n achub bywydau, gan ein galluogi i weithredu a thyfu ein gwasanaeth sy'n achub bywydau. Mae eu hymroddiad yn galluogi ein criw meddygol i ddarparu gofal critigol i bobl ledled Cymru pan fydd arnynt ei angen fwyaf. Maent yn unigryw ac yn amhrisiadwy.

“Mae'r cyfnod hwn yn un anodd i elusennau fel ein helusen ni, ond mae cymorth ein gwirfoddolwyr, ynghyd â gwaith ein cydweithwyr, dros nifer o flynyddoedd, wedi ein rhoi ni mewn sefyllfa i gefnogi ymateb ein gwlad i bandemig COVID-19. Pan godir y cyfyngiadau, a gallwn sicrhau y byddant yn ddiogel, byddwn yn croesawu ein gwirfoddolwyr yn ôl yn frwd.

“Diolch yn fawr i'n holl wirfoddolwyr, ddoe a heddiw. Rydym yn eich gwerthfawrogi chi'n fawr ac yn falch o'ch cael chi'n rhan o Ambiwlans Awyr Cymru.”

Mae'r gwirfoddolwyr yn ymgymryd â nifer o rolau, gan gynnwys cymorth mewn siopau a warysau, digwyddiadau cymunedol a chodi arian a gyda thimau trafnidiaeth yr Elusen.

Mae Danni Spicer, o Abertawe, wedi bod yn gwirfoddoli yn un o siopau elusen Ambiwlans Awyr Cymru ers saith mlynedd. Dywedodd: “Rwy'n gwneud amrywiaeth o bethau i helpu, gan gynnwys prosesu ffurflenni Cymorth Rhodd, glanhau, stemio a thagio dillad, a helpu cwsmeriaid.

“Ers dechrau gwirfoddoli, mae fy hyder wedi gwella'n sylweddol ac rwyf wedi gwneud llawer o ffrindiau newydd. Rwyf hefyd wedi datblygu fy sgiliau cyfrifiadurol.

“Fy hoff beth am wirfoddoli yw bod yn aelod o dîm a helpu Ambiwlans Awyr Cymru i gyflawni ei nod o achub bywydau. Byddwn yn argymell gwirfoddoli i unrhyw un.”

Mae Dilys Edwards yn wirfoddolwr yng Nghaernarfon. Dywedodd: “Awgrymodd fy merch, Lynne, y dylsen ni fod yn wirfoddolwr. Mae hi'n gweithio i’r Elusen a phan benderfynwyd agor siop yng Nghaernarfon, ymunais i â’r criw yno. Rwyf bod yno ers 13 blynedd erbyn hyn. Rwy’n mwynhau bod yn wirfoddolwr yn fawr iawn, mae'n llawer o hwyl. Mae'r ymdeimlad o foddhad a gewch yn hynod o bwysig.”