Mae Swansea Building Society wedi gwneud rhodd bellach o £15,000 i Ambiwlans Awyr Cymru, gan ddod â'r cyfanswm a roddwyd ganddi i'r elusen i £25,000.

Ymddiriedolaeth Elusennol Ambiwlans Awyr Cymru oedd elusen swyddogol Swansea Building Society yn ystod 2020 a 2021. Er gwaethaf yr heriau a welwyd yn sgil yn pandemig, cododd y gymdeithas adeiladu swm sylweddol o arian ar gyfer y gwasanaeth achub meddygol gwerthfawr, gan helpu i gyflawni ei uchelgais hirsefydledig o ddod yn wasanaeth 24/7 ledled Cymru.

Derbyniodd yr elusen achub feddygol rodd o £5,000 gan y gymdeithas adeiladu ym mis Mehefin 2020, ynghyd â rhodd ychwanegol o £5,000 ym mis Rhagfyr 2020 – arian yr oedd angen dirfawr amdano yn ôl yr elusen oherwydd y ffordd yr oedd y cyfnodau clo wedi cyfyngu ar weithgarwch codi arian arferol.

Aeth y gymdeithas adeiladu ati i godi'r arian hwn drwy roi tuniau casglu yn ei changhennau yn Abertawe, y Mwmbwls, Caerfyrddin a'r Bont-faen. Rhoddodd arian cyfatebol wedyn er mwyn dyblu'r cyfanswm a godwyd. Gyda rhodd unigol ychwanegol o £250 gan un o gwsmeriaid y gymdeithas adeiladu, casglwyd cyfanswm o ychydig dros £10,000 ar gyfer 2020. 

Yn 2021, cafodd Ambiwlans Awyr Cymru ei dewis unwaith eto fel elusen swyddogol staff y gymdeithas adeiladu.  Gan ddilyn cyfyngiadau COVID, cynhaliodd staff ym mhedair cangen y gymdeithas adeiladu raffl yn cynnwys basgedi bwyd a chrys rygbi Cymru a theithiau cerdded noddedig. Rhoesant yr elw a wnaed o'u siop fwyd hefyd.  Unwaith eto, dyblodd y gymdeithas adeiladu yr holl rhoddion a wnaed yn ystod y flwyddyn, gan roi cyfanswm o £15,000 ar gyfer 2021.

Ariennir Ambiwlans Awyr Cymru yn gyfan gwbl gan bobl Cymru. Nid yw'r elusen yn cael cyllid uniongyrchol gan y llywodraeth, ac nid yw'n gymwys i gael cyllid gan y Loteri Genedlaethol. Dim ond rhoddion elusennol, digwyddiadau codi arian ac aelodaeth o'i Loteri Achub Bywyd sy'n cadw ei hofrenyddion yn yr awyr.

Mae gan yr elusen bedwar safle yng Nghaernarfon, Llanelli, y Trallwng a Chaerdydd. Yn ogystal â hedfan cleifion i'r ysbyty, mae'n mynd â'r adran damweiniau ac achosion brys yn uniongyrchol i gleifion.

Yn ogystal â'r gwaith a wna yn ystod y dydd, ers mis Rhagfyr 2020 mae hofrennydd a chriw ar alw drwy gydol y nos hefyd i roi cymorth mewn argyfyngau ledled Cymru.

Er mwyn cadw ei hofrenyddion yn yr awyr, mae angen i'r elusen godi £8 miliwn y flwyddyn ac felly mae pob rhodd yn hanfodol i sicrhau ei bod yn gallu parhau i ddarparu'r gwasanaeth ac achub bywydau.

Dywedodd Sioned Jones, Rheolwr Ardal Swansea Building Society ar gyfer Gorllewin Cymru: “Mae'r gymdeithas adeiladu wedi dewis Ambiwlans Awyr Cymru fel ein helusen ar gyfer y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae'n gweithredu heb gyllid gan y Llywodraeth na'r Loteri Genedlaethol, ac mae'n dibynnu'n gyfan gwbl ar roddion gan bobl Cymru. Rydym ni fel staff yn falch o allu helpu'r achos anhygoel hwn sy'n achub bywydau bob dydd ledled Cymru.” 

Dywedodd Mark Stevens, Rheolwr Codi Arian Ambiwlans Awyr Cymru: “Rydym yn ddiolchgar iawn i staff ac aelodau Swansea Building Society am yr haelioni anhygoel y maen nhw wedi'i ddangos i'n helusen dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

“Roedd 2020 a 2021 yn flynyddoedd arwyddocaol yn hanes Ambiwlans Awyr Cymru, nid dim ond oherwydd y pandemig. 2020 oedd y flwyddyn pan gyflawnwyd y nod o ddarparu gwasanaeth achub bywydau 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos. Felly, rydym yn ddiolchgar iawn am roddion Swansea Building Society a helpodd i gyflawni'r nod hwnnw. 2021 oedd 20fed flwyddyn weithredol yr elusen hefyd a sicrhaodd y rhoddion a gawsom ein bod yn gallu parhau i ddarparu'r gwasanaeth er gwaethaf yr anawsterau parhaus a welwyd yn sgil COVID.”