Ambiwlans Awyr Cymru yn dathlu ei ben-blwydd yn 22 ar Ddydd Gŵyl Dewi Mae elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn lansio phen-blwydd yn 22 oed wrth ddathlu dros ddau ddegawd o helpu i achub bywydau ledled y wlad. Wedi’i ffurfio ar Ddydd Gŵyl Dewi, 1 Mawrth 2001, mae’r Elusen wedi esblygu i fod yn un o’r gweithrediadau ambiwlans awyr mwyaf a datblygedig yn feddygol ar draws Ewrop. Ers ei sefydlu, mae Ambiwlans Awyr Cymru wedi mynychu 44,500 o alwadau. Mae'r Elusen yn dibynnu ar roddion gan y cyhoedd i gadw ei hofrenyddion yn yr awyr a'i cherbydau ymateb cyflym ar y ffordd a hon yw'r unig elusen ambiwlans awyr sydd wedi'i lleoli yng Nghymru ac sy'n ymroddedig i bobl Cymru. Mae'r Elusen yn gweithredu pedwar hofrennydd ledled Cymru ac yn cynnig gofal critigol uwch ledled Cymru. Caiff ei ddarparu drwy bartneriaeth unigryw rhwng y trydydd sector a'r sector cyhoeddus, rhwng Elusen Ambiwlans Awyr Cymru, a'r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS Cymru). O ganlyniad, mae'r gwasanaeth yn un a arweinir gan feddygon ymgynghorol a chaiff ei adnabod fel ‘adran achosion brys sy'n hedfan’, gan fynd â thriniaethau o safon ysbyty i'r claf ar safle'r digwyddiad. Mae hyn yn cynnwys y gallu i roi anesthesia, trallwyso gwaed a chynnal llawdriniaethau bach, a hyn oll ar safle digwyddiad. Yn Rhagfyr 2020, cyflwynodd Ambiwlans Awyr Cymru hofrennydd i ddechrau hedfan gyda'r nos, a alluogodd yr Elusen i gyrraedd mwy o bobl yn eu munudau gwaethaf. Ar hyn o bryd, mae Ambiwlans Awyr Cymru yn gweithredu 24/7, bob diwrnod o'r flwyddyn ledled Cymru, a hyn oll, diolch i haelioni pobl Cymru. Am hynny, hoffai’r Elusen ddweud “diolch” i’w holl gefnogwyr ffyddlon, ei staff, gwirfoddolwyr, Ymddiriedolwyr, meddygon, peilotiaid a dyranwyr – ddoe a heddiw. Eich angerdd a'ch penderfyniad yw'r sylfaen gadarn y mae Ambiwlans Awyr Cymru wedi'i hadeiladu arni. Diolch i chi, gallwn wasanaethu Cymru, ac achub bywydau. Pen-blwydd Hapus Ambiwlans Awyr Cymru yn 22! Manage Cookie Preferences