Mae Ambiwlans Awyr Cymru wedi datgelu ei hofrennydd newydd heddiw, sydd wedi cael ei enwi gan bobl Cymru, yn ogystal â'i Cherbydau Ymateb Cyflym newydd.

Mae'r gwasanaeth sy'n achub bywydau, a gaiff ei ariannu gan roddion elusennol, yn ariannu fflyd o gerbydau ymateb cyflym a hofrenyddion. Maent yn cynnwys y cyfarpar meddygol diweddaraf yn y byd sy'n galluogi'r criw meddygol i ymgymryd â thriniaethau adran frys ar leoliad yr argyfwng.

Yn 2022, cafodd yr Elusen ei hailfrandio a heddiw, caiff y cyhoedd gipolwg ar hofrennydd newydd sy'n cario'r dyluniad newydd. Yn ystod yr haf, cafodd cefnogwyr yr Elusen gyfle i enwi'r hofrennydd. Gwnaethant gymryd rhan mewn pleidlais ar-lein i ddewis eu hoff enw cofrestru o blith rhestr o bum dewis. Yr enillydd amlwg oedd G-LOYW, sy'n golygu llachar neu ddisglair yn Gymraeg.

Yn gynharach eleni, cyhoeddodd Ambiwlans Awyr Cymru fod Gama Aviation Plc wedi gwneud cynnig llwyddiannus am gontract hedfan saith blynedd, sy'n cynnwys gweithredu a chynnal a chadw fflyd sylfaenol o bedwar hofrennydd Airbus H145. Ar hyn o bryd, mae gan y gwasanaeth dri hofrennydd H145 ac un H135 llai. Fel rhan o'r contract newydd, bydd yr hofrennydd H135 yn cael ei uwchraddio i un H145, gan roi fflyd gyson o hofrenyddion uwch er mwyn i'r Elusen ddarparu gwasanaeth ambiwlans awyr hanfodol i Gymru.

Mae'r Elusen hefyd wrthi'n diweddaru ei fflyd o gerbydau ymateb cyflym, gyda dau Volvo CX90 wedi'u cyflwyno'n ddiweddar. Caniataodd hyn i'r brand newydd gael ei gyflwyno ar y cerbydau hyn ochr yn ochr â'r hofrennydd.

Cafodd y broses ddylunio gyfan ei chyflawni'n fewnol gan Dîm Cyfathrebu'r Elusen, sy'n cael ei reoli ar y cyd gan Lauren Berry, Dylunydd Digidol Creadigol, a Laura Slate, Rheolwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu. 

Dywedodd Laura: "Roedd gweithio ar y lifrai ar gyfer hofrennydd a cherbyd ymateb cyflym yn rhywbeth nad oedd neb wedi ei wneud erioed o'r blaen. Roedd yn her i Dîm Cyfathrebu'r Elusen, ond gwnaethom ymfalchïo ynddi. Mae'r ffaith ein bod wedi cwblhau'r prosiect yn fewnol yn gyflawniad enfawr i ni, ac rydyn ni'n hynod ddiolchgar o fod wedi cael y cyfle hwn."

Ychwanegodd Lauren: "Roedd llawer o bethau i'w hystyried yn ystod y cyfnod dylunio, o ganfod y deunyddiau gorau i'w defnyddio hyd at ddeall y ddeddfwriaeth ar waith ar gyfer y ddau gerbyd. Cyflwynodd y ddau gerbyd heriau, ond gyda chefnogaeth partneriaid yr Elusen, rydym wedi llwyddo i greu rhywbeth rydym yn falch ohono."

Cydweithiodd y tîm gyda phartneriaid yr Elusen, Gama Aviation, a'r Gwasanaeth Adalw a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) drwy gydol y broses i sicrhau cydymffurfiaeth â'r canllawiau diogelwch.

Mae'r hofrenyddion a'r cerbydau ymateb cyflym yn cynnal eu hunaniaeth Gymreig gref, am fod ganddynt liw coch trwm a chynffon draig werdd nodweddiadol sy'n cyd-fynd â logo newydd yr Elusen. Mae'r dyluniad hefyd yn cynnwys amlinelliad, sy'n wyrdd ar yr hofrenyddion ac yn felyn (fel deunydd hi-vis) ar y Cerbydau Ymateb Cyflym. Mae'r llinellau yn cynrychioli tirwedd ddaearyddol amrywiol Cymru sy'n debyg i'r rhai ar fap Arolwg Ordnans, ac yn symbol o'r ardaloedd a'r cymunedau gwahanol mae'r Elusen yn eu gwasanaethu.

Tra bod y dyluniad wedi cael ei ychwanegu at yr hofrennydd gan Gama Aviation, mae'r cerbydau ymateb cyflym newydd wedi ymgymryd â thrawsnewidiad llawn er mwyn eu haddasu o'r ceir ffordd safonol yr arferent fod, i gerbydau gwasanaethau brys. Cafodd hyn ei roi ar waith gan Polaris, sydd wedi'i leoli yng Nghymru.

Dywedodd Sue Barnes, Prif Weithredwr Ambiwlans Awyr Cymru: "Bob tro y byddwn yn cynnal arolwg ymhlith ein cefnogwyr, caiff hunaniaeth Gymreig gref yr Elusen ei amlygu bod amser fel elfen o falchder. Mae'n bwysig bod yr angerdd sydd gennym am ein cenedl i'w weld drwy'r cerbydau a ddefnyddiwn, o safbwynt eu dyluniad a thrwy'r cofrestriadau Cymraeg ar gyfer ein hofrenyddion.

"Caiff yr hofrenyddion a'r ceir eu hariannu gan bobl Cymru, felly mae'n hynod bwysig i ni eu bod yn adlewyrchu'r wlad a'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu."

Dywedodd Mark Smith, Rheolwr Gyfarwyddwr Cenhadaeth Arbennig Gama Aviation: “Mae wedi bod yn wych cael gweithio gyda'r Elusen i arddangos datblygiad eu brand ar fflyd yr hofrenyddion a'r cerbydau ffordd, gan ein galluogi i ddod â'r ddau dîm at ei gilydd i gydweithio ar sut y gallwn gyflawni dyluniad 2D ar siâp 3D. 

"I mi, mae'r newid yn symbolaidd hefyd. Roedd cyflwyno'r hofrennydd yn ei lifrai newydd yn ddechrau partneriaeth newydd rhyngom ni, EMRTS a'r Elusen. Bydd yr ymgyrchoedd yn dechrau o ddifrif cyn bo hir ac rydym yn edrych ymlaen at chwarae ein rhan yn cyflwyno'r gefnogaeth cyn-ysbyty i'r bobl a'r cymunedau yng Nghymru.

Dywedodd Mark Winter, Cyfarwyddwr Gweithrediadau EMRTS: “Mae ein cerbydau ymateb yn chwarae rôl hanfodol wrth roi gofal critigol i'n cleifion, ac mae'r lifrai newydd ar gyfer y cerbydau ymateb cyflym wedi cael eu treialu gan gydweithwyr ein Helusen yn dilyn adborth gan ein cymunedau. 

"Rydym yn falch iawn o'r dyluniad ac o'r ysbryd cydweithredol a ddangoswyd gan bawb a gymerodd ran."

Caiff y gwasanaeth ambiwlans awyr yng Nghymru ei ddarparu drwy bartneriaeth unigryw rhwng y Trydydd Sector a'r Sector Cyhoeddus. Mae Elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn dibynnu ar roddion y cyhoedd i godi'r £11.2 miliwn sydd ei angen bob blwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr a cherbydau ymateb cyflym ar y ffordd. Mae’r Gwasanaeth Adalw a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) yn darparu meddygon ymgynghorol ac ymarferwyr gofal critigol y GIG sy’n gweithio ar gerbydau’r Elusen. 

Bydd G-LOYW yn ymuno â'r fflyd bresennol o hofrenyddion model H145 yn nes ymlaen eleni. Mae'r cerbydau ymateb cyflym Volvo CX90 nawr yn weithredol. Bydd yr hofrenyddion a'r cerbydau ymateb cyflym eraill yn cael eu hailfrandio dros misoedd nesaf, pan fyddant yn cael eu gwasanaethu nesaf.