Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn falch iawn o gyhoeddi ei gomander awyrennau diweddaraf.

Mae Tom Vincent wedi graddio o fod yn gyd-beilot i fod yn gapten yng nghanolfan yr Elusen yng Nghaerdydd. Daeth y llwyddiant hwn ar ôl hyfforddiant ac asesiadau helaeth, gyda’r partner hedfan Babcock yn cymeradwyo’n derfynol.

Bydd Tom, sydd wedi gweithio yng Nghaerdydd ers Ionawr 2020 fel cyd-beilot, nawr yn gyfrifol am weithrediad hofrenyddion Ambiwlans Awyr Cymru pan fydd ar sifft, yn ogystal â diogelwch ei ddeiliaid. Bydd ganddo hefyd yr awdurdod i roi gorchmynion y bydd yn eu hystyried yn angenrheidiol er mwyn sicrhau diogelwch a bydd yn sicrhau bod yr hofrennydd yn cael ei weithredu yn unol â rheolau a rheoliadau gofynnol. 

Dechreuodd y capten 38 mlwydd oed ei yrfa hedfan 12 mlynedd yn ôl, pan ddysgodd hedfan yng Nghaerloyw ochr yn ochr â gwerthu efelychwyr golff.

Dywedodd: "Cefais fy magu yng Nghernyw, ac roedd gennym garafán yn y Gŵyr ac roedd gwylio'r ambiwlans awyr yn yr awyr bob amser yn gwneud i mi eisiau bod yn beilot.

“Gwnes i ystyried mynd i lawr y llwybr milwrol ond wedyn penderfynais fynd i’r brifysgol, ac ar ôl hynny cefais swydd yn y busnes teuluol. Doeddwn i ddim yn meddwl y byddai fy ngyrfa hedfan yn digwydd, felly penderfynais ddechrau talu am ychydig o wersi tra roeddwn i'n gweithio.

“Nid oes angen cymwysterau penodol arnoch i ddod yn beilot. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw bod yn barod i weithio'n galed a dyfalbarhau. Byddwch yn dod ar draws sawl rhwystr a rhesymau ariannol dros beidio â’i wneud, ond os gallwch oresgyn y rheini, mae'n un o’r swyddi mwyaf gwerth chweil y gallaf feddwl amdani.”

Gwnaeth Tom, a astudiodd radd mewn Astudiaethau Busnes ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr (UWE), Bryste, ei drwydded peilot masnachol ym mis Hydref 2013 ac yna ym mis Ionawr 2014 dechreuodd ar ei swydd gyntaf yn Aberdeen lle treuliodd chwe blynedd, cyn cael y cyfle i ddod i weithio i Ambiwlans Awyr Cymru yng Nghaerdydd.

Dywedodd: “Gweithio i’r ambiwlans awyr oedd fy mhrif amcan erioed. Dyna'r prif reswm pam yr hedfanais hofrennydd yn y lle cyntaf. Prif swydd beilot yw gofalu am yr awyren a chael y tîm i ble mae angen iddyn nhw fynd. Ond pan fyddwch chi ar leoliad efallai y byddwch chi'n gweld pethau na fyddech chi'n disgwyl gweld.

“Pan ar daith, mae popeth arall yn ail ac rwy'n ffocysu ar gael y tîm at y claf a'u cael i'r ysbyty yn y ffordd fwyaf diogel posibl. Mae ein cydweithwyr a’n cwmni yn dda iawn am roi cymorth pe bai ei angen arnom er nad oes gennym hyfforddiant meddygol.”

Cymerodd dri mis i Tom raddio o fod yn gyd-beilot i fod yn gapten. Bu'n rhaid iddo gael ei asesu o dan oruchwyliaeth capten hyfforddi cymwys neu beilot rheoli rhanbarthol, darllen llawlyfrau gweithredu’r hofrennydd, yn ogystal â llawlyfrau ar gyfer gweithredu terfynau a chyfrifoldebau cyfreithiol dydd a nos, a sefyll profion gwybodaeth.

Roedd angen i Tom hefyd gwblhau nifer o deithiau hedfan hyfforddi gyda hyfforddiant argyfwng amrywiol, ac yna profion teithiau hedfan ar y gallu i nodi ac ymdrin yn gywir ag unrhyw faterion a chynnal rheolaeth ddiogel ar yr hofrennydd. Yn olaf, cafwyd asesiad yn ystod teithiau byw yn seiliedig ar lawer o wahanol senarios y gallai'r peilot eu hwynebu, yn amrywio o broblemau gydag offer, i'r tywydd, a hyd yn oed problemau ynghylch safleoedd glanio. Unwaith y cawsant eu cwblhau, cafodd asesiad hefyd yn ystod y dydd ac un arall gyda'r nos.

Dywedodd Tom, sy'n byw ym Mryste: "Rwy'n falch iawn o fod yn gapten ac yn gyffrous i fod mewn swydd rwyf wedi gweithio mor galed tuag ati.

"Rwyf wrth fy modd gyda phopeth am fy swydd. Yn gyntaf, rwyf wrth fy modd â’r cymorth y gallwn ei roi i bobl ar eu hamser mwyaf bregus; yn ail y golygfeydd godidog sydd gennym yng Nghymru o’r Wyddfa, Bannau Brycheiniog a’r arfordir ac yn drydydd rwyf wrth fy modd yn gweithio gyda’r bobl yn yr Elusen ac EMRTS. Gall fod yn waith anodd gyda’r hyn a welwn o ddydd i ddydd ond mae'r tîm a’r cyfeillgarwch ymhlith pawb heb eu hail.

“Fel capten, rwy’n edrych ymlaen at greu amgylchedd cadarnhaol, da i bawb weithio ynddo.”