4ydd Mehefin 2018

Mae Ambiwlans Awyr Cymru wedi croesawu wyneb newydd i’r Tîm Codi Arian yng Nghanolbarth Cymru.

Mae Andrew Hall wedi ei apwyntio fel y rheolwr codi arian ar gyfer Canolbarth Cymru a bydd wedi ei leoli yng nghanolfan awyr yr elusen yn y Trallwng.

Bydd y rheolwr codi arian newydd yn goruchwylio datblygiad yr ymdrechion codi arian tra’n gofalu am y tîm presennol o gydlynwyr cymunedol ar draws Powys a ffiniau Gogledd a Deheuol y wlad.

Mae Andrew yn ymuno gyda’r elusen ar ôl gweithio yn adran dai mewn awdurdod lleol am ddwy ddegawd.

Dywedodd Andrew: “Mae gen i ddiddordeb mewn hofrenyddion ac awyrennau a dyma un o’r pethau a’m denodd i’r swydd. Rwyf yn angerddol am yr achos ac am y gwaith a wneir gan Ambiwlans Awyr Cymru.

“Rwyf yn byw tafliad carreg o’r Trallwng gyda’m gwraig a’r ddau gi cocker spaniel, Dexter a Lilli. Rwyf yn hoff iawn o yrru fy meic modur ac mae Ambiwlans Awyr Cymru wedi helpu aelodau o’m cymuned. Mae stori gan rywun i’w ddweud am Ambiwlans Awyr Cymru drwy’r amser.”

Dywedodd prif weithredwr Ambiwlans Awyr Cymru Angela Hughes: “Hoffwn groesawu Andrew i’r elusen ac rwyf yn disgwyl ymlaen at weithio gydag ef yn y dyfodol. Rwy’n sicr y bydd yn dod yn wyneb cyfarwydd i lawer ar draws cymunedau Canolbarth Cymru.”

Ychwanegodd Andrew: “Rwyf wrth fy modd yn gweithio i’r fath elusen werth chweil ac rwy’n disgwyl ymlaen yn eiddgar at yr her. Rwyf yn gobeithio y byddaf yn medru cynorthwyo’r tîm cyfan gyda’r gwaith gwych y maent yn ei wneud ar draws Canolbarth a Gogledd Cymru.”

Dylai unrhyw un sydd am godi arian neu’n chwilio am ffyrdd i gefnogi’r elusen fynd ati i gysylltu gydag Andrew a’r tîm yn uniongyrchol drwy e-bostio – [email protected]