Rhoddwyd mwy na 50 o fathodynnau pin unigryw a gafodd eu dylunio er mwyn codi arian i nifer o elusennau i griw Ambiwlans Awyr Cymru.

Mae'r bathodynnau pin unigryw, a gafodd eu dylunio gan y gemydd Rhiannon Evans o Dregaron a'i mab Gwern, wedi codi mwy na £1,250 i'r elusen sy'n achub bywydau hyd yn hyn.

Daw testun Saesneg y bathodynnau, sef ‘Here Come the Sun’, o'r ymadrodd Cymraeg hysbys, sef ‘Daw eto haul ar fryn’. Ymadrodd traddodiadol Cymraeg yw hyn, sy'n mynegi gobaith ac yn annog pawb i gadw'r ffydd y bydd y dyfodol yn well.

Mae cwmni gemwaith Rhiannon yn dylunio gemwaith unigryw o Gymru a gaiff ei wneud â llaw gan dîm bach ac ymrwymedig o emyddion crefftus.

Dywedodd Gwern: “Fel busnes teuluol lleol yng nghefn gwlad Cymru, mae'n anodd dod o hyd i ffyrdd o gyfrannu at ein hymdrech genedlaethol ar y cyd i ymdopi â'r argyfwng presennol. Mae'n bleser gennym allu gwneud rhywbeth, waeth pa mor fach, i ddangos ein hundod a'n cefnogaeth i'r bobl hynny sydd wrthi'n dwyn baich yr her bresennol.”

Caiff y bathodynnau pin eu dylunio a'u prynu gan gwsmeriaid er budd Ambiwlans Awyr Cymru, Elusennau Hywel Dda neu Elusennau GIG Gyda'n Gilydd.

Rhoddwyd £25 o werthiant pob bathodyn pin i'r Elusen er mwyn cydnabod a chefnogi'r bobl hynny sydd eu hunain wedi cefnogi'r genedl dros y cyfnod hwn, ac sy'n parhau i wneud hynny â dyfalbarhad a gofal.

Cafodd y bathodynnau pin arbennig a roddwyd i griw'r elusen sy'n achub bywydau eu hariannu gan Dr Iestyn Humphreys a'i gydweithiwr.

Dywedodd Dr Humphreys, o Gaerdydd: “Soniodd Gwern wrthyf am ddylunio'r bathodynnau, a dywedodd fod rhai sefydliadau elusennol wedi cymryd rhan. I'r perwyl hwn roeddwn i'n meddwl, er ein bod yn rhoi i elusennau ar ryw ffurf neu'i gilydd, fel cenedl rydym yn dueddol o anghofio am unigolion sy'n rhoi o'u hamser a'u hegni er budd pobl eraill na fyddai modd i elusennau/gwasanaethau o'r fath redeg hebddynt.

“Felly, ar ran ffrindiau a theulu, hoffem gefnogi cyfraniad “Ambiwlans Awyr 24/7 I Gymru” eleni yn y modd hwn.”

Y gobaith yw y caiff mwy o fathodynnau pin eu prynu ar gyfer criw Ambiwlans Awyr Cymru yn y dyfodol agos.

Dywedodd Dougie Bancroft, Gweithiwr Codi Arian Cymunedol yr Elusen yng Ngogledd Powys: “Roedd y staff wrth eu bodd o gael y bathodynnau pin unigryw gwych hyn. Drwy gydol y pandemig, mae'r enfys wedi bod yn arwydd o obaith. Bydd y bathodynnau pin yn gofrodd hyfryd i'n meddygon, sydd wedi gweithio mor galed yn ystod y pandemig. Diolch i Rhiannon a Gwern am ddylunio'r bathodynnau unigryw, ac am gefnogi nifer o elusennau haeddiannol, gan gynnwys ein helusen ni. Diolch hefyd i Dr Humphreys a'i gydweithiwr am brynu mwy na 50 o fathodynnau ar gyfer ein criw. Rydym yn ddiolchgar dros ben.”

Dywedodd Dewi Thomas: “Am beth hyfryd i'w wneud. Mae'r cyfnod hwn wedi bod yn heriol i bawb, ac mae'n parhau felly. Mae'r ffaith bod ein gwaith yn cael ei gydnabod a'i werthfawrogi yn rhoi hwb mawr i ni. Ar ran fy nghyd-feddygon yn Ambiwlans Awyr Cymru, hoffwn ddiolch i Dr Humphreys a'i gydweithiwr am eu haelioni, ac i bawb yn Gemwaith Rhiannon am gefnogi meddygon ledled Cymru. Daw eto haul ar fryn yn sicr.”

Mae'r bathodynnau pin ar gael mewn arian, aur 9-carat neu aur 18-carat ac yn costio £75, £185 a £385. Rhoddir £25 o bob gwerthiant i'r elusen a ddewisir.

Gallwch eu prynu yn siop Rhiannon yn Nhregaron neu ar-lein yn https://www.rhiannon.co.uk/cynnyrch/4012700/pin-aur-18ct-daw-eto-haul-ar-fryn