Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn apelio ar y cyhoedd i fod yn wirfoddolwyr ar gyfer yr elusen achub bywydau.

Ni chaiff gwirfoddolwyr eu talu – nid oherwydd eu bod yn ddiwerth ond am eu bod yn amhrisiadwy!

Nid yw'r dywediad hwnnw erioed wedi golygu cymaint i Ambiwlans Awyr Cymru.

Mae angen gwirfoddolwyr ar yr Elusen nawr yn fwy nag erioed, yn dilyn blwyddyn anodd yn ystod pandemig y Coronafeirws.

Wythnos Genedlaethol y Gwirfoddolwyr yw hi yr wythnos hon (Mehefin 1-7) ac, fel nifer o elusennau, mae Ambiwlans Awyr Cymru yn dibynnu ar wirfoddolwyr i gefnogi ei weithgareddau codi arian. Heb wirfoddolwyr, ni allai'r elusen gyflawni ei rôl hollbwysig o achub bywydau.

Mae miloedd o bobl wedi gwirfoddoli i Ambiwlans Awyr Cymru, ar wahanol adegau, dros y 20 mlynedd diwethaf. Ynghyd â staff ymrwymedig yr Elusen, maent wedi helpu i godi'r £8 miliwn sydd ei angen bob blwyddyn er mwyn sicrhau y gall ein ‘criw meddygol yn yr awyr’ barhau i hedfan bob awr o'r dydd a'r nos. 

Mae'r Elusen a ddathlodd ei 20fed blwyddyn ym mis Mawrth, yn hynod ddiolchgar i'w holl wirfoddolwyr a roddodd o'u hamser, boed hynny'n 1 awr yr wythnos neu’n 20 awr. 

Mae'r gwirfoddolwyr yn ymgymryd â nifer o rolau, gan gynnwys cymorth mewn siopau a stordai, digwyddiadau cymunedol a chodi arian a gyda thimau trafnidiaeth yr Elusen.  

Dywedodd Michelle Morris, Pennaeth Adnoddau Dynol a Gwirfoddoli yr Elusen: “Mae Wythnos y Gwirfoddolwyr yn rhoi'r cyfle i ni gyd dreulio ychydig o amser yn myfyrio ar yr help a'r cymorth rhagorol y mae ein gwirfoddolwyr yn eu rhoi i ni, p'un a ydynt yn ein helpu yn ein siopau, ein stordy, yn mynd i ddigwyddiadau cymunedol neu'n cefnogi ein gweithgarwch gweinyddol, mae rhodd eu hamser yn cael ei gydnabod a'i werthfawrogi bob amser.

"Mae angen gwirfoddolwyr arnom nawr yn fwy nag erioed o'r blaen, ac rydym yn gofyn i'r cyhoedd helpu i gefnogi ein gwasanaeth achub bywydau, boed hynny am un awr yr wythnos neu un awr y mis. Caiff unrhyw amser a roddir i'r elusen ei werthfawrogi'n fawr ac mae'n hanfodol i helpu i gadw ein pedwar hofrennydd yn yr awyr.

“Fel llawer o sefydliadau eraill, cyflwynodd pandemig COVID-19 lawer o heriau i ni; bu'n rhaid i ni ohirio ein digwyddiadau cymunedol, cau ein siopau, ein stordy a'n caffi, yr oedd pob un ohonynt yn cael eu cefnogi gan ein gwirfoddolwyr mewn ffordd wych. Rwy'n diolch i'n holl wirfoddolwyr am eu dealltwriaeth ac amynedd yn ystod y cyfnod anodd hwn ac edrychwn ymlaen at groesawu gwirfoddolwyr presennol a newydd yn ôl dros yr ychydig fisoedd nesaf.

“Mae ymroddiad, cyfraniad ac ymrwymiad ein gwirfoddolwyr yn anhygoel, ac mae'n rhywbeth y byddwn bob amser yn ddiolchgar amdanynt; ni allem barhau â'n gwaith sy'n achub bywydau hebddynt."

Mae Graham Hirst wedi bod yn gwirfoddoli gyda'r elusen ers dros 13 blynedd, dywedodd: “Dechreuais yn y stordy yn Llansamlet pan oedd gennym un hofrennydd a dau gaban ym Maes Awyr Abertawe. Rwyf wedi mwynhau bob munud ac wedi gweithio gyda phobl ymroddedig iawn dros y blynyddoedd. Rwy'n falch fy mod i wedi bod yn rhan o'r gwaith o ddatblygu Ambiwlans Awyr Cymru i'r gwasanaeth y mae heddiw.”

Rhaid i chi fod yn 18 oed neu'n hŷn er mwyn gwirfoddoli gydag Ambiwlans Awyr Cymru. Mae gwirfoddoli'n agor y drysau mewn sawl ffordd wahanol, gall helpu pobl i gael profiad hollbwysig i ychwanegu at eu CV, yn ogystal â chwrdd â phobl newydd, magu hyder a dysgu sgiliau newydd.

Os ydych yn fyfyriwr neu'n ddi-waith, gall gwirfoddoli fod yn ffordd wych o gael profiad, dysgu sgiliau newydd a rhoi cipolwg o'ch personoliaeth i ddarpar gyflogwyr.

Mae rheolwyr yn gwerthfawrogi gwirfoddolwyr fel chwaraewyr tîm bywiog a blaengar sydd ag agwedd anhunanol tuag at helpu'r gymuned.

Gallai Ambiwlans Awyr Cymru ddarparu geirda gwerthfawr i'ch darpar gyflogwr – ac mae'r Elusen hyd yn oed wedi mynd ymlaen i gyflogi ei gwirfoddolwyr.

Os ydych wedi ymddeol, gall gwirfoddoli fod yn ffordd wych o ehangu eich cylch o ffrindiau.Hwyrach y gallwch ddefnyddio'r sgiliau a ddysgoch yn eich gyrfa neu ymgymryd â thasgau a heriau newydd.

Gall gwirfoddoli fod yn ddihangfa o'r diflastod arferol neu fod yn seibiant bach o'r teulu os ydych o oedran gweithio!

Beth bynnag fo'ch amgylchiadau, gall gwirfoddoli fod yn wych i'ch iechyd meddwl. Mae'n hyblyg a gall gyd-fynd â pha nifer bynnag o oriau y gallwch chi eu rhoi.

Os oes gennych ddiddordeb mewn cael gwybod mwy am gyfleoedd i wirfoddoli gydag Ambiwlans Awyr Cymru, gallwch anfon e-bost at y Cydlynydd Gwirfoddoli Sandra Hembery am ffurflen gais drwy [email protected]  neu lawrlwythwch ffurflen gais o wefan yr Elusen: www.ambiwlansawyrcymru.com