Mae'n bleser gan Ambiwlans Awyr Cymru gyhoeddi ei bod am agor siop newydd yn Yr Wyddgrug gan greu sawl swydd newydd. 

Mae'r Elusen sy'n achub bywydau wedi cymryd prydles hen safle Poundstretcher yng Nghanolfan Daniel Owen. Bydd yn cael ei hagor fel siop hwb a fydd yn galluogi'r Elusen i ddatblygu ei phresenoldeb yn yr ardal ymhellach. 

Bydd y safle newydd yn Yr Wyddgrug, a fydd yn agor ddechrau 2023, yn hwb i weithrediadau manwerthu'r Elusen yng ngogledd ddwyrain Cymru. Yn ogystal â bod yn siop, mae gan y cyfleuster newydd le i gadw a dosbarthu stoc a gaiff ei rhoi i'r Elusen ar gyfer ein siop fechan yn Wrecsam. Mae gwaith yn mynd yn ei flaen hefyd i geisio dod o hyd i drydydd lleoliad manwerthu yng ngogledd ddwyrain Cymru. 

Dywedodd Sue Barnes, Prif Weithredwr Ambiwlans Awyr Cymru: “Mae digon o le ar gyfer siop a storfa nwyddau ar y safle yn Yr Wyddgrug. Bu'n rhaid i ni wrthod cyfraniadau yng ngogledd ddwyrain Cymru yn y gorffennol oherwydd diffyg lle storio ond bydd y cyfleuster newydd hwn yn ein galluogi i dderbyn mwy o gyfraniadau. 

“Mae digon o le yn y siop i arddangos amrywiaeth llawn o nwyddau a gaiff eu rhoi i'r Elusen ac mae'r cyfleuster ar gyfer storio a phrosesu stoc a nwyddau, a fydd yn cael eu rhannu gyda'n siop yn Wrecsam, yn ddefnyddiol hefyd. 

 “Mae'r safle newydd yn rhan hanfodol o ddatblygiad ein cynllun manwerthu ledled Cymru. Mae'n rhan o strategaeth hirdymor i gynyddu ein hôl troed manwerthu ac ymgysylltu â'n cefnogwyr yn eu cymunedau.”    

Gyda'r siop newydd yn agor yn Yr Wyddgrug bydd yr Elusen yn chwilio am weithwyr newydd i ymuno â'r tîm. Bydd proses recriwtio yn cael ei chynnal ar gyfer rheolwr cynorthwyol yn y siop, cynorthwyydd gwerthu, gweithredwyr cludo a gweithiwr stordy. Bydd y cyfleoedd swyddi hyn yn cael eu hyrwyddo ar wefan yr Elusen. 

Bydd yr Elusen yn chwilio am wirfoddolwyr i helpu i gynnal y siop hefyd. 

Ychwanegodd Dr Sue Barnes: “Drwy ein harolygon, dywedodd ein cefnogwyr a'n gwirfoddolwyr wrthym mai cryfder ein helusen yw ei ffocws ar gymuned. Fel sefydliad a gafodd ei greu gan bobl Cymru ar gyfer pobl Cymru, rydym wedi ymgorffori ein hunain o fewn cymunedau ledled y wlad. Mae ein siopau yn fwy na chanolfannau manwerthu, maent yn rhan o'r cymunedau maent yn eu gwasanaethau. Mae hyn yn rhywbeth mae pobl eisiau i ni barhau gydag a'i gryfhau, ac mae wedi dod yn ganolbwynt i'n strategaeth newydd.  

“Yn bwysicaf oll, bydd yr hwb newydd yn cyfrannu at ein gwasanaeth sy'n achub bywydau. Gwnaethom ymateb i 266 o argyfyngau peryglu bywydau neu achosi anafiadau difrifol ledled Sir Ddinbych, Wrecsam a Sir y Fflint yn 2021. Bydd y cyfleuster yn ein helpu i barhau i wasanaethu pobl Cymru pan fydd ein hangen arnynt fwyaf. Mae hwn yn ddatblygiad cyffrous i'r Elusen ac edrychwn ymlaen at gynyddu ein cydberthynas â phobl yr ardal. Bydd y cyfleuster yn creu cyfleoedd gwirfoddoli a gwaith newydd yn yr ardal ac rydym wrth ein bodd â hyn.”   

Mae'r newyddion hyn yn dilyn y cyhoeddiad diweddar fod yr Elusen wedi buddsoddi mewn cyfleuster hwb cymunedol a manwerthu newydd yng Nghaernarfon. Mae'r sefydliad sy'n achub bywydau yn chwilio am leoliadau ar gyfer agor siop yng nghanolbarth Cymru hefyd. 

Mae angen i Ambiwlans Awyr Cymru godi £8 miliwn y flwyddyn i gadw ei hofrenyddion yn yr awyr a chadw ei gerbydau ymateb cyflym ar y ffordd.  

Mae gwasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru yn cynnig gofal critigol uwch ledled Cymru. Caiff ei ddarparu drwy bartneriaeth unigryw rhwng y trydydd sector a'r sector cyhoeddus, rhwng Elusen Ambiwlans Awyr Cymru, a'r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS Cymru). O ganlyniad, mae'r gwasanaeth yn un a arweinir gan feddygon ymgynghorol a chaiff ei adnabod fel ‘adran achosion brys sy'n hedfan’, gan fynd â thriniaethau o safon ysbyty i'r claf ar safle'r digwyddiad. Mae hyn yn cynnwys y gallu i roi anesthesia, trallwyso gwaed a chynnal llawdriniaethau bach, a hyn oll ar safle digwyddiad.   

I gael rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais am un o swyddi'r Elusen, neu i wirfoddoli, ewch i www.ambiwlansawyrcymru.com.

Mae sawl ffordd y gall y cyhoedd barhau i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys rhoddion ar-lein, ymuno â Loteri Achub Bywydau'r Elusen neu drwy feddwl am eu ffyrdd arloesol eu hunain o godi arian gartref.  I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.ambiwlansawyrcymru.com.   

Fel arall, gellir tecstio'r gair HELI i 70711 er mwyn rhoi £5.