Cyhoeddwyd: Dydd Mercher 1 Mawrth 2023

Bydd yr ystafell yn ystafell bwrpasol er mwyn i gleifion a’u hanwyliaid dderbyn cymorth ôl-ofal yn dilyn triniaeth gan yr Elusen.

Yn 2019, lansiodd Ambiwlans Awyr Cymru ei Gwasanaeth Ôl-ofal, gan gyflwyno Nyrs Cyswllt Cleifion, Jo Yeoman. O ganlyniad i'r gwasanaeth hwn, gall yr Elusen nid yn unig wneud yn siŵr mai hi yw un o'r rhai cyntaf i'r digwyddiad ond hefyd yr olaf i adael, gan sicrhau bod cleifion a'u teuluoedd yn cael eu cefnogi trwy gydol eu hadferiad, gan gynnwys cymorth profedigaeth.

Ehangodd yr Elusen y gwasanaeth yn 2022 gyda Nyrs Cyswllt Cleifion ychwanegol, Hayley Whitehead-Wright, yn gweithio ar draws y Canolbarth a'r Gogledd.

Mae teulu Davies yn un o nifer sydd wedi derbyn cymorth gan y tîm ôl-ofal.

Ddydd Iau, 8 Gorffennaf 2021, cafodd Arwel, 40 a'i ferch Sofia 7 oed, ddamwain penben ger Llandeilo.

Anfonodd Elusen Ambiwlans Awyr Cymru ddau hofrennydd ac un cerbyd ymateb cyflym, i ddarparu ymyriadau gofal critigol yn y fan a’r lle.

Cafodd Sofia driniaeth bellach ar ochr y ffordd gan nad oedd yn arddangos unrhyw arwydd amlwg o anaf, tra bod y gwasanaethau brys yn gweithio i ryddhau Arwel o'r cerbyd,

Dywedodd Jez James, Ymarferydd Trosglwyddo Hofrenyddion: “Ar ôl cyrraedd, gallwn weld bod Arwel yn derbyn y driniaeth fwyaf ddatblygedig y gallem ei rhoi gyda chynnyrch gwaed a’r holl ymyriadau achub bywyd y gall tîm gofal critigol eu rhoi.”

Er gwaethaf ymdrechion y criw, bu farw Arwel. 

Roedd Arwel yn ddyn hoffus ac yn un o bileri'r gymuned. Roedd wrth ei fodd â chwaraeon, ond ei brif ddiddordebau oedd rygbi a hedfan balŵn aer poeth y teulu.

Dywedodd Laura: "Roedd Arwel yn berson arbennig iawn, gwr bonheddig, yn caru ei deulu ac wrth ei fodd yn helpu'r gymuned. Rydym yn hynod falch ohono a'r gwaddol y mae wedi ei adael. Roeddwn i'n ei garu gymaint.

“Roedd yn dad anhygoel, a dyna sy'n brifo fwyaf. Roedd ganddo gymaint mwy i’w roi. Gweithiodd mor galed i roi’r bywyd gorau i ni. Nid yw'n deg o gwbl ac mae'n peri poen gan nad yw bellach yma i weld y plant yn tyfu ac i rannu eu llwyddiannau â nhw. Mae'r cyfan rwy'n ei wneud nawr, yn bethau rwy'n eu gwneud i'r ddau ohonom. Er nad yw Arwel bellach yma'n gorfforol, mae yma ym mhobman ac ni fydd y plant fyth yn anghofio hynny.”

Disgrifiodd Sofia ac Owen eu tad fel dyn: "caredig, parod ei gymwynas, gweithgar, doniol, cryf, ar adegau yn ein gwylltio ond yn fwy na dim, cariadus."

Ar ôl y ddamwain, cysylltodd Jo â'r teulu.

Dywedodd Laura: "Dim ond ar ôl i dîm ôl-ofal Ambiwlans Awyr Cymru gysylltu â ni y gallem ni fel teulu ddeall yn iawn beth oedd wedi digwydd y diwrnod hwnnw."

Ar ôl i gyfyngiadau Covid-19 godi, aeth Laura, Sofia ac Owen i ymweld â Jo yn y ganolfan yn Llanelli.

Pan ofynnwyd iddi am yr elusen, dywedodd Sofia: "Hoffwn ddiolch i'r ambiwlans awyr am ofalu amdana i a dadi."

Yn ystod yr ymweliad, yr unig ystafelloedd oedd ar gael i sgwrsio oedd swyddfeydd, ac arweiniodd hyn at y syniad o gael Ystafell i Gleifion a Theuluoedd.

Ynghyd â chefnogaeth gan Elusen 2wish, dechreuodd Jo a Hayley weithio ar yr ystafell. Mae 2wish yn rhoi cymorth i'r rheini sydd wedi colli person ifanc o dan 25 oed, ond maent hefyd yn darparu arian grant ar gyfer ystafelloedd i gleifion a theuluoedd.

Rhoddwyd sawl darn o ddodrefn ar gyfer yr ystafell ganddynt, gan wneud yr amgylchedd ynddi yn un cynnes a chyfforddus.

Dywedodd Rhian Mannings, Prif Weithredwr elusen 2wish: “Mae wedi bod yn wych cyd-weithio â staff Canolfan Ambiwlans Awyr Cymru a datblygu’r ystafell hon i deuluoedd gyda’n gilydd. Mae pob teulu yn haeddu’r hawl i gael ystafell gyfforddus ac anghlinigol pan fydd y gwaethaf yn digwydd. Gobeithio y bydd yr ystafell hon, nid yn unig yn dod â chysur i deuluoedd, ond hefyd yn cynorthwyo gweithwyr proffesiynol sy'n cefnogi teuluoedd ar yr adegau anodd hyn.”

Mae Laura, Sofia ac Owen wedi bod yn rhan o'r broses gyfan.

Lluniodd Sofia ac Owen restr o ddymuniadau ar gyfer yr ystafell, gan gynnwys bisgedi a siocled poeth ac mae pob un wedi'u rhoi ar waith.

Bu’r plant hefyd wrthi'n peintio rhan gyntaf yr ystafell yn gynharach eleni, gan beintio eu henwau ond hefyd balŵn aer poeth. Fel teulu, roeddent oll yn rhannu hoffter Arwel o hedfan mewn balŵn aer poeth, gan greu nifer o atgofion melys gyda'i gilydd.

I nodi'r atgofion hyn, mae’r Elusen wedi gosod balŵn aer poeth hyfryd o’r nenfwd ac mae Owen wedi tynnu llun, sydd wedi cael ei fframio yn yr ystafell.

Dywedodd Owen: "Diolch yn fawr am yr ystafell hon, mae'n hyfryd. Mae’n arbennig i mi gan ei bod wedi ei chreu er cof am dad.”

Agorwyd yr ystafell yn swyddogol gan Eu Huchelderau Brenhinol, Tywysog a Thywysoges Cymru a'r teulu Davies ddydd Mawrth 28 Chwefror 2023.

Yn ystod yr ymweliad, cyhoeddodd Ambiwlans Awyr Cymru y bydd Ei Uchelder Brenhinol, Tywysog Cymru hefyd yn dod yn Noddwr Brenhinol i'r Elusen.

Dywedodd Laura: “Rwy'n ymwybodol bod nifer o bobl angen cymorth Ambiwlans Awyr Cymru a bod llawer o deuluoedd wedi colli pobl anhygoel, felly mae bod yn rhan o hyn yn anrhydedd o'r mwyaf ac yn arbennig iawn i ni.”

Bydd gwaddol Arwel yn parhau drwy’r ystafell hon ac yn helpu cymaint o deuluoedd eraill.