22/07/2020

Mae Ambiwlans Awyr Cymru wedi cyhoeddi y bydd yn ailagor ei siop elusen yng Nghwmdu ddydd Llun 20 Gorffennaf.

Hon fydd y siop gyntaf i groesawu cwsmeriaid yn ôl ers i'r siopau orfod cau ym mis Mawrth yn sgil pandemig y Coronafeirws.

I gadw'r cyhoedd yn ddiogel yn y siop, mae'r Elusen wedi newid yr oriau agor. Bydd hyn yn rhoi cyfle i'r staff lanhau'r siop yn drylwyr cyn ac ar ôl iddynt ei hagor bob dydd.

Yr oriau agor newydd yw dydd Llun i ddydd Gwener rhwng 11am a 4pm.

Bydd y siop yn Abertawe yn monitro nifer y bobl sydd yn y siop ar yr un pryd, ac yn dilyn canllawiau llym. Bydd gofyn i gwsmeriaid gadw pellter cymdeithasol bob amser yn ogystal â dilyn system un ffordd. Mae'r Elusen hefyd yn gofyn i gwsmeriaid beidio â chyffwrdd ag unrhyw beth oni bai eu bod yn bwriadu prynu'r eitem honno.

Pan fyddant yn barod i dalu, bydd gofyn i gwsmeriaid sefyll yn y blwch penodedig a defnyddio dull digyffwrdd neu gerdyn lle y bo'n bosibl. Mae gorsafoedd diheintio dwylo hefyd ar gael i bobl sicrhau bod eu dwylo yn lân.

Dywedodd Andrew Lawton, Pennaeth Manwerthu Ambiwlans Awyr Cymru: “Rydym yn falch o gyhoeddi ein bod yn ailagor un o'n siopau elusen wrth i'r cyfyngiadau symud ddechrau llacio. Mae incwm Ambiwlans Awyr Cymru wedi gostwng yn sylweddol yn ystod y pandemig, yn sgil cau siopau elusen a chanslo digwyddiadau. Rydym yn gobeithio gallu agor y siopau sy'n weddill yn raddol dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf.

“Mae diogelwch ein staff a'n cwsmeriaid yn hollbwysig i ni a hoffem roi sicrwydd i'n cefnogwyr ein bod wedi bod yn gweithio'n galed y tu ôl i'r llenni er mwyn sicrhau bod y siop yn ddiogel. Er mwyn gallu parhau i gadw'r siop ar agor, rydym yn gofyn i gwsmeriaid ddilyn y canllawiau llym. Nod hyn yw sicrhau eu bod nhw, yn ogystal â'n staff, yn ddiogel.

“Hoffem ddiolch i'n cwsmeriaid am eu hamynedd, dealltwriaeth a chefnogaeth yn ystod y cyfnod anodd hwn. Hebddoch chi, ni fyddai ein gwasanaeth achub bywydau yn bodoli.”

Mae'r Elusen hefyd wedi gwneud rhai newidiadau i'r eitemau y gall eu derbyn yn ogystal â'i gwasanaeth dosbarthu. I ddiogelu'r cyhoedd a'r staff, maent yn cynnwys:

Eitemau Rhodd  – Yn anffodus, dim ond nifer cyfyngedig o eitemau  y gall siop elusen Cwmdu eu derbyn ar hyn o bryd. Y rheswm dros hyn yw am fod lle yn brin yn y siop ac am fod angen cadw eitemau ar wahân am gyfnod i osgoi'r posibilrwydd o groeshalogi.

Gwasanaeth Dosbarthu – Yn anffodus, dim ond gwasanaeth dosbarthu cyfyngedig y gall yr Elusen ei ddarparu ar hyn o bryd. Caiff eitemau eu gadael ar garreg y drws, yn hytrach na'u cario i mewn i gartrefi. Byddai'n well casglu eich eitemau o'r siop lle y bo'n bosibl.