Mae'n bleser gan Ambiwlans Awyr Cymru gyhoeddi y bydd yn ailagor ei siop elusen yn y Fenni ddydd Mercher Tachwedd 25.           

  Oherwydd canllawiau'r llywodraeth, bu'n rhaid cau'r siop yn ystod pandemig y coronafeirws ym mis Mawrth.      

Mae’r siop yn y Fenni wedi bod ar gau ers dechrau cyfyngiadau symud gwreiddiol y coronafeirws ym mis Mawrth.      

  Er mwyn ailagor ei drysau, mae Ambiwlans Awyr Cymru wedi rhoi mesurau gofalus ar waith er mwyn sicrhau bod diogelwch y cyhoedd yn hollbwysig.   

   Er mwyn cadw'r cyhoedd yn ddiogel yn y siop, mae'r Elusen wedi addasu ei horiau agor fel bod modd i staff a gwirfoddolwyrlanhau'r siop yn drylwyr ar ddechrau a diwedd pob dydd.     

   Daw'r penderfyniad i ailagor y siop yn y Fenni, sydd wedi'i lleoli yn Frogmore Street, ar ôl llwyddo i ailagor siopau yn Abertawe, Wrecsam, Caerdydd, Bangor, Tywyn ac, yn ddiweddar, Dinbych-y-pysgod.    

   Bydd y siop ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 11am a 4pm.     

   Gan ddilyn canllawiau'r llywodraeth,bydd angen i bawb wisgo gorchuddion wyneb yn siop elusen y Fenni, ar wahân i'r rhai hynny sydd wedi'u heithrio rhag eu gwisgo.    

   Dywedodd Pennaeth Manwerthu'r Elusen, Andrew Lawton: “Rydym ni wrth ein bodd i allu ailagor ein siop yn y Fenni. Mae incwm Ambiwlans Awyr Cymru wedi gostwng yn sylweddol yn ystod y pandemig, yn sgil cau siopau elusen a chanslo digwyddiadau. Roedd ein siopau a oedd wedi ailagor cyn y cyfnod atal byr diweddar yn gwneud yn dda iawn ac rydym yn gobeithio y bydd ein siop yn y Fenni yr un mor llwyddiannus.            

   “Mae diogelwch ein staff a'n cwsmeriaid yn hollbwysig i ni a hoffem roi sicrwydd i'n cefnogwyr ein bod wedi bod yn gweithio'n galed y tu ôl i'r llenni er mwyn sicrhau bod y siop yn ddiogel.Er mwyn gallu parhau i gadw'r siop ar agor, rydym yn gofyn i gwsmeriaid ddilyn y canllawiau llym. Nod hyn yw sicrhau eu bod nhw, yn ogystal â'n staff a'n gwirfoddolwyr, yn ddiogel. Diolch i'n holl gwsmeriaid sydd wedi bod yn amyneddgar wrth aros i'r siop ailagor.”     

   Bydd gofyn i gwsmeriaid gadwpellter cymdeithasol bob amser yn ogystal â dilyn system unffordd. Mae'r Elusen hefyd yn gofyn i gwsmeriaid beidio â chyffwrdd ag unrhyw beth oni bai eu bod yn bwriadu prynu'r eitem.     
    
Pan fyddant yn barod i dalu, bydd gofyn i gwsmeriaid sefyll yn y blwch penodedig a defnyddio dull digyffwrdd neu gerdyn lle y bo'n bosibl. Mae gorsafoedd
diheintiodwylo hefyd ar gael i bobl sicrhau bod eu dwylo'n lân, ac mae sgriniau Perspex wedi cael eu gosod wrth bob pwynt talu.   

   At hynny, mae'r Elusen wedi gwneud rhai newidiadau i'r eitemau y gall eu derbyn yn ogystal â'i gwasanaeth dosbarthu. Mae'r rhain fel a ganlyn:     

   Eitemau Rhodd – Yn anffodus, dim ond nifer cyfyngedig o eitemau y gall y siop yn yFenni eu derbyn ar hyn o bryd. Mae hyn am fod angencadw eitemau ar wahân am gyfnod i osgoi'r posibilrwydd o groeshalogi.     

   Gwasanaeth Dosbarthu– Yn anffodus,dim ond gwasanaeth dosbarthu cyfyngedig y gall yr Elusen ei ddarparu ar hyn o bryd.    

   Caiff eitemau eu gadael ar garreg y drws, yn hytrach na'u cario i mewn i gartrefi. Byddai'n well casglu eich eitemau o'r siop lle y bo'n bosibl.