A allwch chi fynd ati i redeg Ras Cefn y Ddraig Montane – sef ras fynydd galetaf y byd i Elusen?

Os gallwch, mae Ambiwlans Awyr Cymru wedi ymuno â threfnwyr Ras Cefn y Ddraig Montane i gynnig mynediad am ddim i un athletwr lwcus gystadlu yn y ras pellter eithafol ar hyd asgwrn cefn Cymru.

Nid her i'r gwangalon mohoni – bydd y rhedwr llwyddiannus yn rhedeg o Gastell Conwy i Gastell Caerdydd, sef pellter o 380km neu 1.5 marathon y dydd, mewn dim ond chwe diwrnod!

Ydych chi'n hyderus wrth redeg ar fynyddoedd, gyda phrofiad ar dir garw a llywio, ac yn benderfynol o wthio'ch corff i'r eithaf er mwyn llwyddo?

Mae Ras Cefn y Ddraig Montane yn cynnig lle rhad ac am ddim, gwerth £1,399, i'r person iawn. Os hoffech chi gymryd eich cam nesaf fel rhedwr pellter eithafol, anfonwch fideo at y panel o feirniaid enwog yn esbonio pam eich bod yn credu y gallwch chi drechu ras fynydd galetaf y byd.

Byddai disgwyl i enillydd y lle elusennol am ddim godi £2,000 i'r elusen achub bywydau. Bydd Ras Cefn y Ddraig Montane 2022 yn cael ei chynnal rhwng 5 a 10 Medi. Bydd croeso i wylwyr ddod i Gastell Caerdydd ar gyfer y diweddglo mawr.

Dywedodd Shahe Ohly, Cyfarwyddwr Ras Cefn y Ddraig Montane®: “Mae Ras Cefn y Ddraig Montane® yn archwilio tirweddau prydferth ac anghysbell mynyddoedd Cymru wrth i gyfranogwyr redeg ar hyd y wlad o Gastell Conwy i Gastell Caerdydd. Bydd gweithio gyda'r elusen Gymreig wych hon, sy'n cynnig gofal mewn argyfwng sy'n achub bywydau ym mhob rhan o'r wlad, yn ffordd wych o gefnogi'r cymunedau lleol y byddwn yn mynd drwyddynt. Rydym wrth ein bodd yn cyfrannu lle elusennol yn ras 2022 ac edrychwn ymlaen at gyfarfod â'r rhedwr a ddewisir i ymgymryd â'r her enfawr hon er lles Ambiwlans Awyr Cymru.”

Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn cynnig gofal critigol uwch a chaiff ei ddisgrifio'n aml fel ‘Adran Achosion Brys sy'n Hedfan’. Mae'r meddygon ymgynghorol a'r ymarferwyr gofal critigol yn fedrus iawn, ac yn cario rhai o'r offer meddygol mwyaf arloesol yn y byd. Mae ganddynt y gallu i drallwyso gwaed, rhoi anesthesia a chynnal llawdriniaethau brys ar safle'r digwyddiad, cyn hedfan y claf yn uniongyrchol i gael gofal arbenigol.

Dywedodd Elin Wyn Murphy, Codwr Arian Digwyddiadau a Phartneriaethau Ambiwlans Awyr Cymru: "Rydym wrth ein bodd o gael cynnig lle elusennol am ddim yn ras fynydd galetaf y byd. Edrychwn ymlaen at dderbyn fideos yr ymgeiswyr a bydd y panel o enwogion yn cael y cyfle i ddewis pwy maen nhw'n credu fyddai'n addas i gystadlu yn yr her anodd hon. Nid ras i'r gwangalon yw Ras Cefn y Ddraig Montane, ond os credwch y gallwch gwblhau'r orchest, anfonwch eich cais at yr elusen erbyn 15 Chwefror. Drwy godi arian i'r Elusen, bydd yr enillydd yn ein helpu i fod yno i bobl Cymru pan fydd ein hangen fwyaf.

Cwblhaodd Dean Thomas, Postfeistr o Fancyfelin, Sir Gaerfyrddin, Ras Cefn y Ddraig Montane ym mis Medi 2021, gan godi £5,000 i'r elusen achub bywydau.

Nid oedd gwthio ei gorff i’r eithaf yn rhywbeth dieithr i Dean, a gymerodd ran yn ei hanner marathon cyntaf yn 13 oed, ac sydd wedi cwblhau naw marathon yn y gorffennol, yn cynnwys tri Marathon Llundain a phum Marathon Eryri, Ras Ryngwladol yr Wyddfa a Fan Dance Bannau Brycheiniog cyn cyflwyno'i enw i ymgymryd â Ras Cefn y Ddraig Montane.

Oes gennych chi'r un penderfyniad â Dean i gwblhau'r her? Os oes, hoffai Ambiwlans Awyr Cymru glywed gennych.

Rhaid anfon pob fideo ymgeisio drwy e-bost at [email protected] erbyn y dyddiad cau ar 15 Chwefror.

I gael rhagor o wybodaeth am Ras Cefn y Ddraig Montane, ewch i www.dragonsbackrace.com