14/07/2020

Mae dyn o Sir y Fflint wedi addo talu'r pwyth yn ôl i'r meddygon hedfan, a achubodd ei fywyd, drwy gwblhau taith 100 o filltiroedd yn ei gadair olwyn mewn 23 diwrnod!

Mae Mark Steene, sy'n ysbrydoliaeth i bawb ac sy'n rheoli ei gadair olwyn gyda'i ên, wrthi'n cwblhau ei fersiwn ei hun o'r 'Tour de France' gyda thaith o amgylch Gogledd Cymru mewn cadair olwyn gyda chymorth gan ei ffrindiau a'i ofalwyr, yn y gobaith o godi £100,000 ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru.

Bum mlynedd yn ôl, bu Mark yn hyfforddi am 8 mis i gystadlu mewn her Tour de France elusennol. Ychydig ddiwrnodau cyn iddo ddechrau’r her, cafodd Mark ddamwain ddifrifol a wnaeth ei adael yn gwadriplegig.

Achubwyd bywyd Mark ar ôl iddo gael ei gludo o leoliad y ddamwain i Ysbyty Brenhinol Prifysgol Stoke gan hofrennydd Ambiwlans Awyr Cymru, lle y cafodd sawl triniaeth. John Adams ac Andrew Williams oedd y meddygon hedfan a gynorthwyodd Mark y diwrnod hwnnw, gyda chymorth gan Greg Browning ar y Ddesg Cymorth Awyr.

Er gwaethaf ei anabledd, mae Mark o Lanfynydd ger Wrecsam yn benderfynol o orffen y daith. Dywedodd: “Ar ôl deg mis yn yr ysbyty, tri ataliad ar y galon a saith triniaeth fawr er mwyn ceisio gwella fy meddwl a fy nghorff, rwy'n barod i ddechrau talu'r pwyth yn ôl i Ambiwlans Awyr Cymru.

“Bum mlynedd yn ôl, roeddwn ar fin dechrau seiclo 2,088 o filltiroedd llawn y Tour de France mewn 23 diwrnod. Yna, digwyddodd y ddamwain gan oedi popeth, tan nawr! O'r diwedd, rwyf i a fy nghadair olwyn ffyddlon, yr wyf yn ei rheoli gyda fy ngên, yn mynd i gwblhau'r her!”

Yn ystod y daith, bydd Mark yn cyfarfod â Neil Smith, a ddaeth i'w helpu yn dilyn y ddamwain.

Dywedodd Mark:  “Mae Neil yn ddyn anhygoel. Roedd yn gyrru ei feic modur pan ddaeth o hyd i mi'n gorwedd ar y ffordd. Yn ogystal â galw am ambiwlans a hofrennydd, gorweddodd wrth fy ochr ar y tarmac pan oedd angen wyneb cyfeillgar arnaf. Yn union beth oedd ei angen arnaf.

Dywedodd Lynne Garlick, Rheolwr Codi Arian yr Elusen yn y Gogledd: “Mae Mark yn ysbrydoliaeth i bawb. Mae wedi bod drwy gymaint yn ystod y pum mlynedd diwethaf ac wedi dangos penderfyniad a chryfder. Mae'r ffaith ei fod yn dal i ganolbwyntio ar godi arian i helpu eraill ar ôl digwyddiad a newidiodd ei fywyd, yn dangos y math o berson ydw.

“Felly pob lwc i ti Mark wrth geisio cyrraedd dy darged o £100,000. Mae pob un ohonom yn dy gefnogi.”

Mae Mark wedi codi £6,473 hyd yn hyn. Gallwch ddangos eich cefnogaeth drwy ei noddi ar ei dudalen codi arian yma

Gallwch ddilyn taith Mark ar ei wefan yma