Fy20 Croeso i'n Her Fy20! Ar gyfer 'Fy20', gallwch ddewis unrhyw her, tasg neu weithgaredd y mynnoch yn ymwneud â'r rhif 20, a'i gwblhau yn ystod mis Hydref. P'un a ydych yn dewis cerdded 20 milltir, pobi 20 o ddanteithion neu ddarllen 20 o lyfrau – mae rhywbeth at ddant pawb. Nod yr her gyffrous a hwyliog hon yw codi arian hanfodol i'n helusen achub bywydau ac eich annog i herio eich hunain, neu i roi cynnig ar weithgareddau newydd. Pam y dylwn i gymryd rhan? Bob blwyddyn, mae angen i ni godi £11.2 miliwn a bydd yr holl elw a wnaed o'ch gweithgaredd Fy20 yn mynd tuag at gadw ein pedwar hofrennydd yn yr awyr. Os byddwch yn codi £100, cewch fathodyn pin arbennig a bydd ein cefnogwyr ifanc yn cael tegan Draig Del. COFRESTRWCH HEDDIW! Sut y gallaf gymryd rhan? Gallwch ddewis cwblhau beth bynnag y mynnoch ar gyfer eich her Fy20. Penderfynwch beth rydych am ei wneud (edrychwch ar y rhestr isod i gael ysbrydoliaeth). Byddwch yn greadigol, dewiswch rywbeth a fydd yn eich herio ac yn eich ysgogi drwy gydol y mis. Penderfynwch ar y nifer y byddwch yn ei gyflawni, gan gynnwys 20 yn eich her - gallai fod yn 20 eitem, 20 diwrnod, 20 munud, 20 sesiwn, 20 milltir...penderfynwch chi! Crëwch eich tudalen codi arian. Wrth i chi gofrestru drwy Facebook, bydd angen i chi greu tudalen codi arian, neu gallwch greu tudalen codi arian ar JustGiving, neu wneud cais am ffurflen noddi drwy anfon e-bost i'n tîm digwyddiadau yn [email protected]. Dywedwch wrth eich teulu, eich ffrindiau a'ch cydweithwyr am yr hyn rydych yn ei wneud a rhannwch eich dolenni codi arian.Mae'n bosibl y bydd rhai ohonynt am ymuno â chi neu greu eu her Fy20 eu hunain? Cofiwch gadw mewn cysylltiad â ni!Gallwch ymuno â'r grŵp Fy20 dynodedig ar Facebook a phostio eich newyddion diweddaraf yno. Os nad ydych yn defnyddio Facebook, gallwch anfon e-bost atom gyda'ch newyddion diweddaraf. Cofrestru fel ysgol/tîm Os byddwch yn cofrestru fel ysgol neu dîm, byddwn yn anfon tegan Draig Del atoch er mwyn iddi ymuno â chi yn eich her. Y ffordd orau i chi gofrestru fel ysgol neu dîm yw anfon e-bost i [email protected]. Dywedwch wrthym faint ohonoch sy'n cymryd rhan. Crëwch dudalen JustGiving. Cysylltwch â ni os bydd angen ffurflen noddi neu flychau casglu arnoch, drwy anfon e-bost i [email protected]. 20 o syniadau ar gyfer Fy20 Pobi 20 o gacennau Cerdded, rhedeg, loncian neu feicio am 20 munud neu 20 milltir neu am 20 diwrnod Creu cwilt gyda 20 o sgwariau Darllen 20 llyfr Ymdrochi yn y môr neu mewn dŵr oer 20 gwaith Plancio bob diwrnod am 20 diwrnod Gwylio 20 o ffilmiau newydd Gwneud 20 o neidiau seren, neidiau gwasg, eisteddiadau neu unrhyw fath arall o ymarfer corff bob dydd Rhoi cynnig ar ymwybyddiaeth ofalgar, myfyrio neu ymdrochi yn y goedwig am 20 munud y dydd Creu edrychiad newydd gyda 20 o steiliau gwallt gwahanol neu wisg ffansi bob dydd Postio 20 o luniau ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio #Fy20 – gallai'r rhain fod ar thema benodol Treulio 20 awr yn gwirfoddoli gyda'ch'ch hoff elusen neu yn eich cymunedol leol Dysgu 20 o ystumiau ioga newydd Crosio neu wau 20 o eitemau Tynnu neu baentio 20 o luniau Gwneud 20 o bosau, fel croeseiriau neu jig-so Dringo 20 o fryniau neu fynyddoedd Dysgu 20 gair neu ymadrodd newydd mewn iaith wahanol Rhoi 20 eitem i'ch siop elusen leol Cwblhau 20 munud o arddio y dydd Manage Cookie Preferences