Jim Wagstaffe Ymunodd Jim Wagstaffe â Bwrdd yr Ymddiriedolwyr yn 2013. Mae Jim wedi gweithio ym maes Adnoddau Dynol a swyddi rheoli am fwy na 30 mlynedd. Mae ei brofiad yn estyn o’r sector gweithgynhyrchu preifat i’r sector cyhoeddus a’r GIG, ac mae ganddo bellach ei fusnes ymgynghori ei hun ym maes Adnoddau Dynol a Rheoli. Ef yw cadeirydd pwyllgor Adnoddau Dynol Gwasanaeth Ambiwlans Cymru. Mae Jim yn byw yng Ngogledd Ddwyrain Cymru lle mae’n mwynhau treulio amser gyda’i deulu ac yn gwirfoddoli fel llywodraethwr ysgol. Mae’n cefnogi Cynghrair Rygbi Croesgadwyr Gogledd Cymru. Manage Cookie Preferences