Ymunodd Dafydd Jones-Morris â Bwrdd yr Ymddiriedolwyr yn 2012. Yn gyn-barafeddyg a chyfarwyddwr gweithredol rhyngwladol gyda Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, mae gan Dafydd bron 40 mlynedd o brofiad ym maes gofal cyn-ysbty. Bu’n rhan o weithgor a oedd yn gyfrifol am gydgysylltu a darparu gwasanaeth dan arweiniad meddygon ymgynghorol yng nghanolfan awyr yr elusen yng Nghaernarfon.

Yn wreiddiol o Fangor, mae Dafydd yn angerddol am ei gymuned leol ac yn aelod o Gymdeithas Rheilffordd Eryri, côr meibion lleol ac yn gadeirydd cyngor cymunedol.