Ymunodd Dave â Bwrdd Ymddiriedolwyr yr elusen yn 2009 a daeth yn Gadeirydd yn 2013.

Ymddeolodd Dave fel Prif Weithredwr Cyngor Sir Gar yn 2015 ar ôl 12 mlynedd yn y swydd. Ers iddo symud i Gymru yn 1992, mae Dave hefyd wedi gweithio i Gyngor Castell-nedd Port Talbot a Chyngor Dinas Abertawe. Mae’n aelod o Fwrdd Dinas-Ranbarth Bae Abertawe ac ymunodd â Bwrdd Cynghori Parth Menter Port Talbot yn ddiweddar.

Yn 2012 derbyniodd Dave OBE am wasanaethau ym maes Adfywio a Sgiliau yng Ngorllewin Cymru. Yn wreiddiol o Henffordd, mae’n ddeiliad tocyn tymor ar gyfer Hereford FC ac yn mynychu gemau Clwb Rygbi Llanymddyfri yn rheolaidd.