Mae yna sawl rheswm dros ddewis gwirfoddoli ar ein rhan. Mae'r mwyafrif o’n gwirfoddolwyr yn ymuno â ni am fod ein helusen wedi effeithio arnynt a’u bod yn adnabod rhywun y bu angen ein help arno, felly maent yn awyddus i roi rhywbeth yn ôl. Mae rhai eraill am gwrdd â phobl newydd, meithrin sgiliau a phrofiad newydd, a chefnogi eu cymuned leol. Beth bynnag fo’ch rheswm, byddem wrth ein bodd eich croesawu i’r tîm.