Pam y bydd yr hofrennydd yn cael ei leoli yng Nghaerdydd? Fel rhan o'n hymchwil, rydym wedi dadansoddi'r ‘anghenion nas diwallwyd’ am ein gwasanaethau, sef yr achosion lle nad oeddem yn gallu ymateb iddynt am eu bod yn digwydd y tu allan i oriau gweithredol. Canfu'r dadansoddiad hwn fod angen am wasanaeth ambiwlans awyr estynedig dros nos, a bod y rhan fwyaf o achosion yn digwydd yn Ne-ddwyrain Cymru. Mewn ymateb i'r canfyddiadau, ein safle presennol yn Hofrenfa Caerdydd yw'r lleoliad mwyaf addas ar gyfer hofrennydd nos. Mae'n caniatáu i ni ymateb i'r gyfran fwyaf o achosion, ond gyda'r capasiti i gwmpasu Cymru gyfan. Yn ogystal, pan fydd y tywydd yn wael, gallwn fanteisio ar ddulliau glanio sy'n defnyddio teclynnau, gan ddefnyddio'r dechnoleg ym Maes Awyr Caerdydd. Mae Hofrenfa Caerdydd ymhell o ardaloedd preswyl, sy'n lleihau'r aflonyddu a achosir gan sŵn hofrennydd yn ystod y nos. Manage Cookie Preferences