Ystod y dydd mae gennym dri hofrennydd brys sy'n gweithredu ledled Cymru. Er gwaethaf y galw am ein gwasanaeth dros nos, mae'n llawer llai na'r galw yn ystod y dydd. I ddechrau, byddwn yn darparu'r gwasanaeth nos gydag un criw yn gweithio o hofrennydd neu gerbyd ymateb cyflym. Rydym yn gwerthuso ein data'n barhaus, ac os bydd y galw am wasanaeth nos yn cynyddu, byddwn yn ystyried cyfleoedd ychwanegol i ehangu ein gwasanaeth.