Bu'n weledigaeth i Ambiwlans Awyr Cymru ddarparu gwasanaeth 24/7 erioed. Bydd y gwasanaeth newydd yn sicrhau bod gofal cyn mynd i'r ysbyty ar gael ledled Cymru, 24 awr y dydd. Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, rydym wedi dadansoddi'r ‘anghenion nas diwallwyd’ am ein gwasanaethau, sef yr achosion lle nad oeddem yn gallu ymateb iddynt am eu bod wedi digwydd y tu allan i oriau gweithredol yn ystod y dydd.

Canfu'r dadansoddiad hwn y canlynol:

  • Mae angen gwasanaeth ambiwlans awyr estynedig dros nos. Roedd tua 990 o achosion o ‘anghenion nas diwallwyd’ rhwng 8am ac 8pm dros gyfnod o 12 mis.

  • Mae cynnydd penodol yn y galw rhwng 3pm a hanner nos. Yn Ne-ddwyrain Cymru y mae'r cynnydd hwn fwyaf cyffredin.

Roedd digwyddiadau sy'n peryglu bywyd neu'n peryglu aelodau'r corff rhwng 8pm ac 8am yn cael eu rheoli gan Wasanaeth Ambiwlans Cymru. Yn yr achosion hyn, nid oedd Ambiwlans Awyr Cymru ar gael i helpu drwy gynnig ei driniaethau safon Adran Achosion Brys.