Partneriaeth unigryw rhwng Elusen Ambiwlans Awyr Cymru a GIG Cymru (gyda chymorth Llywodraeth Cymru) yw gwasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru. Yr Elusen sy'n codi'r arian sydd ei angen i ddarparu'r hofrenyddion. GIG Cymru sy'n cyfrannu'r meddygon a'r ymarferwyr gofal critigol, y cyfarpar electro-feddygol a'r cerbydau ymateb cyflym. 

Mae'n bwysig nodi mai sefydliad annibynnol yw'r Elusen, sy'n dibynnu'n llwyr ar roddion elusennol i sicrhau bod yr hofrenyddion yn parhau i weithredu. Nid yw'n cael unrhyw arian uniongyrchol gan y llywodraeth.