Ymunodd y beiciwr Paralympaidd Simon Richardson â’r elusen fel Llysgennad yn 2012. Cafodd yr athletwr o Borthcawl, a enillodd fedal arian a dwy fedal aur yng Ngemau Paralympaidd Beijing yn 2008, ei hedfan gan Ambiwlans Awyr Cymru ar ôl gwrthdrawiad car difrifol. Creodd Simon yr ymgyrch codi arian a’r hashnod arbennig #SimonStrong, gyda nifer o ddigwyddiadau codi arian wedi’u cynllunio ar gyfer yr elusen.