Ymunodd y tenor Rhys Meirion â’r elusen fel Llysgennad yn 2012. Ar ôl dioddef trasiedi personol, ymgymerodd Rhys â thaith gerdded 200 milltir ar draws Cymru, gan godi miloedd o bunnau i'r elusen. Mae Rhys yn parhau i berfformio mewn cyngherddau a digwyddiadau er budd yr elusen ledled y wlad.