Cynyddu eich gwerthiannau drwy ein cefnogi ni A wyddoch chi y gallwch ein cefnogi wrth werthu eich eitemau? Mae hyn yn lleihau eich ffioedd gwerthu, gan eich galluogi i fwynhau arbedion treth, yn ogystal â rhoi rhywbeth yn ôl i achos sy'n achub bywydau. Dyma eich camau syml er mwyn gwerthu i ni: Defnyddiwch yr adnodd chwilio elusennau a dewiswch Ymddiriedolaeth Elusennol Ambiwlans Awyr Cymru, yna gwnewch yn siŵr eich bod yn edrych am yr adran 'donate a portion to charity' a dewiswch y ganran rydych am ei rhoi o'ch eitem restredig – yn amrywio rhwng 10% a 100%. Gwerthwch eich eitem a'i hanfon fel y byddech yn ei wneud fel arfer, heb unrhyw waith papur ychwanegol. Sicrhewch eich bod yn cael derbynneb rhodd – o fewn ychydig wythnosau ac ar ôl i'r prynwr dalu, bydd PayPal Giving Fund (sef partneriaid eBay) yn anfon y rhodd atom yn awtomatig, ynghyd â derbynneb rhodd i chi ei chadw. Hefyd, pa ganran bynnag y byddwch yn dewis ei rhoi, bydd eBay yn rhoi'r un ganran o'ch ffi gwerthu yn eich cyfrif. Felly, os byddwch yn rhoi 50% o'r gwerthiant i ni, bydd eBay yn rhoi 50% o'ch ffi gwerthu yn eich cyfrif. I gael rhagor o wybodaeth, edrychwch ar y Canllaw Gwerthu i Elusen eBay. Manage Cookie Preferences