Mynnwch eich lle am ddim ym Marathon Metrig Caer MBNA. Ras 26.2km (16.3 milltir) yw hwn, sy'n cynnig y cam perffaith o hanner marathon i farathon llawn.

Mae'r cwrs yn mynd ar hyd ffyrdd caeedig, a byddwch yn rhedeg heibio i bob un o atyniadau eiconig Caer (y Waliau Rhufeinig, yr Eglwys Gadeiriol, y Rhesi Canoloesol, Cloc Eastgate, yr Amffitheatr) cyn cychwyn am gefn gwlad godidog Swydd Gaer a'i phentrefi. Byddwch yn ymuno â rhedwyr y marathon ar ôl 8.5 milltir ac yn dychwelyd i Gaer ar hyd glannau Afon Dyfrdwy i orffen mewn ffordd fythgofiadwy yn y Cae Ras. Mae'r gefnogaeth yn y pentrefi a'r cymunedau ar hyd y cwrs yn un o blith nifer o uchafbwyntiau'r ras.

Cewch redeg i AAC am ddim pan fyddwch yn ymrwymo i godi o leiaf £150 a byddwch yn cael:

  • Mynediad am ddim i'r digwyddiad
  • Crys rhedeg Ambiwlans Awyr Cymru gwerth £30
  • Cymorth gan eich cydgysylltydd cymunedol lleol

ar ben y pethau arferol a geir drwy redeg 10K Cael, sef:

  • crys-t y digwyddiad
  • medal bwrpasol

I gael rhagor o wybodaeth am Marathon Metrig Caer cliciwch yma.

Booking for this event has now closed.