Hanner Marathon Caer Mynnwch eich lle am ddim nawr yn un o hanner marathonau mwyaf hirsefydledig y DU. Mae'r ras yn dechrau am 09:00 yng Nghae Ras Caer yng nghanol y ddinas. Bydd y cwrs newydd, sy'n gyflymach ac yn fwy gwastad, yn mynd ar hyd ffyrdd caeedig yn unig. Gan gychwyn tua'r gogledd-orllewin allan o'r ddinas, bydd y rhedwyr yn setlo'n gyflym i gyflymdra'r ras, gyda digonedd o gefnogaeth a cherddoriaeth ar hyd y ffordd. Yn ail hanner y ras, bydd y rhedwyr yn dychwelyd i Gaer i orffen y ras mewn ffordd fythgofiadwy y tu allan i Neuadd y Ddinas a'r Eglwys Gadeiriol. Cewch redeg i AAC am ddim pan fyddwch yn ymrwymo i godi o leiaf £150 a byddwch yn cael: Mynediad am ddim i'r digwyddiad Crys rhedeg Ambiwlans Awyr Cymru gwerth £30 Cymorth gan eich cydgysylltydd cymunedol lleol ar ben y pethau arferol a geir drwy redeg 10K Cael, sef: crys-t y digwyddiad medal bwrpasol I gael rhagor o wybodaeth am Hanner Marathon Caer cliciwch yma. Booking for this event has now closed. Manage Cookie Preferences