10k Caer 10k Caer ALDI yw'r unig ras 10k sy'n cael ei rhedeg yn ninas Caer. Mae'r cwrs cyflym yn dechrau ar Nuns Road ger Cae Ras Caer ac yn mynd tua'r gogledd-orllewin allan o'r Ddinas ar hyd ffyrdd eang sy'n galluogi'r rhedwyr i setlo'n gyflym i gyflymdra'r ras. Yna, bydd y rhedwyr yn mynd heibio i bentref hyfryd Mollington, cyn dychwelyd i ganol Dinas Caer, gan fynd heibio i Neuadd Fictoraidd y Dref a'r Eglwys Gadeiriol ganoloesol cyn gorffen ar Eastgate Street o flaen cefndir ysblennydd Cloc Eastgate. Cewch redeg i AAC am ddim pan fyddwch yn ymrwymo i godi o leiaf £150 a byddwch yn cael: Mynediad am ddim i'r digwyddiad Crys rhedeg Ambiwlans Awyr Cymru gwerth £30 Cymorth gan eich cydgysylltydd cymunedol lleol ar ben y pethau arferol a geir drwy redeg 10K Cael, sef: crys-t y digwyddiad medal bwrpasol I gael rhagor o wybodaeth am 10k Caer ALDI, cliciwch yma. Booking for this event has now closed. Manage Cookie Preferences