Cyfrannwch

Dymuniad Nodolig Jack

Nid ydych yn ein hadnabod, ond heblaw am gymorth hael pobl fel chi, fyddai ein mab ddim yma y Nadolig hwn. 

Yn gynharach eleni, syrthiodd ein mab Jack, sy'n flwydd oed, a tharo ei ben, gan ei adael yn brwydro am ei fywyd. 

Dydyn ni erioed wedi teimlo mor ofnus 

Roedd y tywydd yn ofnadwy y diwrnod hwnnw, ond wnaeth hynny ddim atal Ambiwlans Awyr Cymru. Teithiodd y tîm gofal critigol ar y ffordd yn un o gerbydau ymateb cyflym yr Elusen. 

Ar ôl cyrraedd, roedd Dr Mike, a Rhyan yr Ymarferydd Gofal Critigol, yn poeni bod gan Jack waedlif ar ei ymennydd. Rhoeson ni gusan iddo er mwyn rhoi gwybod iddo ein bod ni yno gydag ef, a dyma pryd welson ni'r pecyn gwyntiedydd newyddenedigol bach. Roedd Jack yn edrych mor fach a bregus 

Er mwyn diogelu ei ymennydd a rhoi'r cyfle gorau posibl iddo oroesi, rhoddodd y criw anesthetig cyffredinol iddo a meddyginiaeth i helpu i leihau'r gwaedlif, a chafodd ei roi ar wyntiedydd er mwyn rheoli ei anadlu. Heb y driniaeth hon, fyddai Jack ddim wedi goroesi'r daith i'r ysbyty.  

Dyma hunllef pob rhiant. 

Roedd gan Jack waedlif mawr ar ei ymennydd ac roedd wedi torri ei benglog. Cafodd lawdriniaeth frys a'i drosglwyddo i'r uned gofal dwys. 

Doedden ni ddim yn gwybod a oedd Jack wedi dioddef niwed hirdymor i'w ymennydd, ond er gwaethaf popeth, daeth ato'i hun 48 awr yn unig ar ôl ei ddamwain, a'i air cyntaf a'r ôl iddo agor ei lygaid oedd 'mam'.   

Ers hynny, rydym wedi bod yn addysgu Jack am yr Elusen, a'i hoff eiriau newydd yw 'car' a 'copter'. 

Nhw yw archarwyr Jack.  

Mae derbyn yr hyn sydd wedi digwydd wedi bod yn anodd, ond mae'r cymorth ôl-ofal wedi bod yn help mawr, ac mae Jack yn cadw ei 'Dystysgrif Dewrder' yn falch yn ei flwch atgofion.  

Nid yw llawer o bobl yn sylweddol mai Elusen yw Ambiwlans Awyr Cymru, ac er ein bod wedi bod yn cefnogi'r elusen ers sawl blwyddyn, doedden ni byth wedi dychmygu y byddai'n achub bywyd ein bachgen bach rhyw ddiwrnod. 

Bydd y Nadolig yn adeg emosiynol, ond yn fwy arbennig byth eleni. Wrth i ni dreulio tymor y Nadolig gyda'n gilydd fel teulu, yn creu atgofion na fyddem o bosibl wedi gallu eu creu heb yr Elusen, byddwn hefyd yn meddwl am y rhai sydd wedi aberthu eu Nadolig er mwyn helpu eraill.  

Dymuniad Nadolig Jack 

Mae Ambiwlans Awyr Cymru wedi rhoi'r rhodd orau posibl i ni – mae wedi rhoi dyfodol i Jack.  

Bydd llawer o blant yn gofyn am deganau gan Siôn Corn, ond dymuniad Nadolig Jack yw bod yr Elusen yn gallu parhau i achub bywydau a helpu pobl. 

Helpwch i wireddu dymuniad Nadolig Jack drwy roi arian i'r gwasanaeth hwn sy'n achub bywydau. Dydych chi byth yn gwybod pryd y bydd ei angen arnoch chi neu'ch anwyliaid. Diolch.   

Nadolig Llawen 

Jess, Jamie a Jack 

Goroeswr Ambiwlans Awyr Cymru  

Cyfrannwch