Dyma’r un diwrnod bob blwyddyn pan fydd llawer o bobl i ffwrdd o’r gwaith, yn treulio amser gyda’u hanwyliaid gartref. Ond i’r gwasanaethau brys, mae Dydd Nadolig yn union fel unrhyw ddiwrnod arall. Tra bydd Cymru yn deffro i olygfeydd hudol sy’n debyg i stori tylwyth teg Nadoligaidd, bydd grŵp o unigolion ymroddedig gweithgar ar sifft yn barod i ymateb i argyfyngau ledled Cymru. Ar gyfer criwiau’r pedwar hofrennydd, mae Dydd Nadolig yn ddiwrnod arall yn y swyddfa fawr goch sy’n hedfan. Dyma rai o aelodau ein criw yn siarad am eu profiad o weithio ddydd Nadolig.

“Dw i wedi gweithio Ddydd Nadolig sawl gwaith yn y gorffennol. Bydd y diwrnod yn dechrau gyda chyfarfod boreol gyda gweddill y criw, ac yna bydd y gwaith yn dechrau. Yn gyffredinol byddwn yn cyflawni’r dyletswyddau arferol o ddydd i ddydd yn yr orsaf, sy’n cynnwys gwirio ac ailgyflenwi cyfarpar, hyfforddiant a pharatoi ar gyfer y ffôn yn canu ar unrhyw adeg. Byddwn yn ceisio gwneud y gorau o Ddydd Nadolig nes daw galwad. Cyn gynted ag y bydd y ffôn yn canu, bydd fel unrhyw ddiwrnod arall.” Dr Ian Bowler

“Wrth weithio ddydd Nadolig, byddwn yn ceisio nodi’r achlysur mewn rhyw ffordd, hyd yn oed os mai dim ond cinio blasus wedi’i goginio yn yr orsaf awyr fydd hynny. Rydym i gyd yn gwybod yn y gwasanaethau brys fod angen i ni weithio dros gyfnod y Nadolig a byddwn yn cynllunio ein dathliadau pan na fyddwn yn gweithio. Rydym yn gobeithio na fydd byth yn digwydd, ond hyd yn oed ar Ddydd Nadolig mae’n bosibl y byddwn yn delio ag argyfwng. Ni waeth pa ddiwrnod o’r flwyddyn, mae bob amser yn anrhydedd bod yn rhan o Ambiwlans Awyr Cymru a bod wrth law i gefnogi pobl Cymru.” Kate Owen, Ymarferydd Gofal Critigol

“Fel y byddai’n wir bob dydd, y flaenoriaeth yw paratoi’r hofrenyddion ar gyfer y diwrnod sydd o’n blaenau. Bydd hyn fel arfer yn cynnwys gwirio’r tanwydd, golchi’r injan, cadarnhau nad oes unrhyw gyfyngiadau hedfan yn ymwneud â digwyddiadau, ac yna mae’r criw yn ymgynnull ar gyfer ein cyfarfod boreol. Ar ôl hynny, bydd digon i’w wneud, gan gynnwys ateb e-byst, gwneud gwaith gweinyddol neu astudio. Ond bydd popeth yn stopio pan fydd y ffôn yn canu.” James Grenfell, Peilot

“Mae gwaith brys wedi mynd yn llawer prysurach dros gyfnod y Nadolig yn y blynyddoedd diwethaf. Pan fyddwch yn gweithio Ddydd Nadolig, mae dwysdeimlad ychwanegol i lawer o’r swyddi ac mae rhai yn dueddol o aros gyda chi. Rwy’n ddiolchgar i gydweithwyr sy’n gweithio ac yn gobeithio’n fawr y bydd pawb yn cael rhywfaint o amser dros gyfnod yr ŵyl i wneud a mwynhau’r pethau sy’n bwysig iddynt.” Greg Browning, Rheolwr Hwb Gofal Critigol