Y Cynllun Gwobrwyo

  1. Caiff cynllun gwobrwyo'r Cerdyn Teyrngarwch ei weithredu gan ymddiriedolaeth elusennol Ambiwlans Awyr Cymru (“AAC”, “ni”), sef corff sy'n elusen gofrestredig yng Nghymru (rhif 1083645) y mae ei phencadlys yn Tŷ Elusen, Ffordd Angel, Llanelli Gate, Dafen, Llanelli, SA14 8LQ.
  2. Mae'r telerau ac amodau hyn yn llywodraethu'r weithred o gasglu a defnyddio pwyntiau'r Cynllun Gwobrwyo ac yn nodi termau'r cytundeb rhwng AAC a chi, y cwsmer, mewn perthynas â'r Cynllun Gwobrwyo.
  3. Mae'r Cynllun Gwobrwyo yn ddilys yn siopau manwerthu AAC sy'n cymryd rhan. . Bydd y cynllun yn dechrau gyda chyfnod prawf yn ein siopau yng nghanol Abertawe, Cwmdu a'r Mwmbwls. Nid yw'r Cynllun Gwobrwyo yn ddilys yn unrhyw le arall, nes caiff adolygiad ei gynnal ar y cyfnod prawf.
  4. Ni ellir cronni na chyfnewid pwyntiau ar ein llwyfannau e-fasnach
  5. Er mwyn cofrestru ar gyfer y Cynllun Gwobrwyo, mae'n rhaid i ymgeiswyr gwblhau pob adran berthnasol yn ein siopau manwerthu. Mae'n rhaid nodi'r holl wybodaeth bersonol sydd ei hangen arnom cyn y gellir cyflwyno Cerdyn Teryngarwch.
     Drwy ddarparu eich manylion rydych yn cadarnhau eu bod yn wir. Os caiff eich cais am Gerdyn Ffyddlondeb ei gymeradwyo yn y siop byddwch yn ymaelodi'n awtomatig â'r Cynllun Gwobrwyo a gallwch ddechrau casglu pwyntiau ar unwaith.
  6. Mae'n rhaid i ymgeiswyr am Gerdyn Teyrngarwch fod yn 16 oed neu drosodd ac yn byw yn y Deyrnas Unedig (gan gynnwys Ynys Manaw ac Ynysoedd y Sianel).
  7. Mae eich Cerdyn Teyrngarwch yn bersonol i chi ac nid yw'r Cerdyn Teyrngarwch na'r pwyntiau yn drosglwyddadwy. Nid ydym yn cyflwyno Cardiau Teyrngarwch ychwanegol ar gyfer eich cyfrif, ond wrth gwrs, gall eich teulu a'ch ffrindiau sy'n 16 oed neu drosedd wneud cais am eu Cerdyn Teyrngarwch eu hunain.
  8. Caiff pob Cerdyn Teyrngarwch ei gyflwyno gan AAC ac maent yn eiddo iddynt hefyd. Mae'n rhaid i chi ddychwelyd eich Cerdyn Teyrngarwch atom yn Cymorth Rhodd a Chardiau Teyrngarwch, Ambiwlans Awyr Cymru, Tŷ Elusen, Ffordd Angel, Llanelli Gate, Dafen, Llanelli, SA14 8LQ gan ei nodi fel Cardiau Teyrngarwch, neu ei ddinistrio os byddwn yn gofyn i chi wneud hynny. Mae Cardiau Teyrngarwch a gaiff eu dychwelyd yn eiddo i AAC.
  9. Os byddwch yn colli eich Cerdyn Teyrngarwch dylech ymweld ag un o'n siopau manwerthu sy'n cymryd rhan yn y cynllun a chaiff Cerdyn Teyrngarwch newydd ei gyflwyno i chi. Nid yw AAC yn atebol am unrhyw bwyntiau a gaiff eu colli.
  10. Ceidw AAC yr hawl, ar hysbysiad, megis hysbysiad i'w gyhoeddi ar ein gwefan, www.ambiwlansawyrcymru.com, i newid telerau ac amodau'r Cynllun Gwobrwyo er mwyn adlewyrchu unrhyw ofyniad cyfreithiol neu am unrhyw reswm angenrheidiol a rhesymol arall. Bydd hysbysiadau sy'n cynnwys manylion am y telerau diwygiedig ar gael yn yr adran Telerau ac Amodau berthnasol ar ein gwefan, www.ambiwlansawyrcymru.com
  11. Ceidw AAC yr hawl ar hysbysiad, i wneud y canlynol: (i) addasu'r nwyddau sydd wedi'u cynnwys neu heb eu cynnwys yn y Cynllun Gwobrwyo; (ii) addasu'r cynnyrch y gellir ennill pwyntiau wrth eu prynu; (iii) addasu'r lleiafswm y gellir ei wario er mwyn ennill pwyntiau; (iv) addasu nifer y pwyntiau i gyfanswm y gost; (v) addasu nifer y pwyntiau sydd eu hangen i'w cyfnewid am unrhyw nwyddau; a (vi) newid nifer y siopau sy'n cymryd rhan yn y cynllun ar unrhyw bryd.
  12. Ni ellir cronni na chyfnewid pwyntiau ar drafodion costau dosbarthu na thrafodion rhodd arian parod.
  13. Ceidw AAC yr hawl i derfynu’r Cynllun Gwobrwyo drwy roi hysbysiad terfynu tri mis cyn y daw i ben. Pe byddwn yn gwneud hyn, bydd yn rhaid i chi gyfnewid unrhyw bwyntiau erbyn y dyddiad y daw'r Cynllun Gwobrwyo i ben. Caiff unrhyw bwyntiau nad ydynt wedi cael eu cyfnewid cyn y dyddiad y daw i ben eu canslo.Gall AAC gymryd unrhyw gamau yr ystyrir eu bod yn briodol os bydd yn credu eich bod yn cam-ddefnyddio'r Cynllun Gwobrwyo, gan gynnwys dod â'ch Cerdyn Teyrngarwch i ben ac atal neu ganslo unrhyw bwyntiau a enillwyd yn flaenorol ac sy'n ymddangos ar eich cyfrif.
  14. Ceidw AAC yr hawl hefyd, ar hysbysiad, i ganslo neu dynnu unrhyw Gerdyn Teyrngarwch unigol yn ôl unrhyw bryd. Gallwch ddod â'ch Cerdyn Teyrngarwch a'ch cyfraniad at y Cynllun Gwobrwyo i ben unrhyw bryd.
  15. Ceidw AAC yr hawl i dynnu pwyntiau oddi ar Gardiau Teyrngarwch nad ydynt wedi cael eu cyfnewid am gyfnod o ddwy flynedd. Fodd bynnag, bydd eich Cerdyn Teyrngarwch yn parhau'n ddilys a byddwch yn parhau i allu cymryd rhan yn y Cynllun Gwobrwyo oni fyddwch yn nodi fel arall.
  16. Os nodir nad yw unrhyw delerau yn y telerau ac amodau hyn yn ddilys yn eu cyfanrwydd neu ran ohonynt, caiff y rhan honno ei dileu ac ni effeithir ar ddilysrwydd y telerau eraill.
  17. Mae'r telerau ac amodau hyn a'r Cynllun Gwobrwyo yn amodol ar ddeddfau Cymru a Lloegr

Diogelu Data

  1. Mae AAC wedi cofrestru â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ac yn cynnal ei busnesau yn unol â'r ddeddf Diogelu Data.
  2. Byddwn yn casglu gwybodaeth amdanoch pan fyddwch yn gwneud y canlynol: i) cofrestru ar gyfer y Cynllun Gwobrwyo; ii) defnyddio eich Cerdyn Teyrngarwch wrth brynu cynnyrch yn eich siopau manwerthu sy'n cymryd rhan yn y cynllun neu wrth roi stoc; a iii) cysylltu â ni mewn perthynas â'r Cynllun Gwobrwyo.
  3. Rydym yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol at y dibenion canlynol: i) rheoli a gwella'r Cynllun Gwobrwyo; ii) gweinyddu eich cyfrif ac anfon negeseuon a thalebau os yn berthnasol; a iii) datblygu a gwella ein gwasanaethau manwerthu.
  4. Efallai y byddwn yn cysylltu â chi oherwydd y canlynol: i) eich hysbysu am gynigion arbennig a hyrwyddiadau o'n hadran manwerthu; a ii) mae'n bosibl y byddwn yn cysylltu â chi i'ch diweddaru am waith AAC at ddibenion codi arian.

  5. Ni fyddwn yn datgelu eich gwybodaeth i unrhyw drydydd partïon ac eithrio pan fydd angen gwneud hynny yn gyfreithiol.
  6. Os byddwch yn dymuno cael copi o'r wybodaeth a ddelir amdanoch, ysgrifennwch atom yn Tŷ Elusen, Ffordd Angel, Llanelli Gate, Dafen, Llanelli, SA14 8LQ. Cadarnhewch eich rhif Cerdyn Teyrngarwch ac unrhyw fanylion i'n helpu i adnabod a chael hyd i'ch gwybodaeth. Os bydd unrhyw fanylion yn anghywir, rhowch wybod i ni a byddwn yn eu haddasu.

Casglu Pwyntiau

  1. Caiff un pwynt ei roi am bob £1 gyfan y bydd cwsmer yn ei gwario, neu luosrifau ohonynt, wrth i chi roi eich Cerdyn Teyrngarwch i weithiwr y siop wrth y cownter pan yn prynu (e.e. mae gwario £1 yn gyfwerth ag un pwynt a £5 yn gyfwerth â phum pwynt).
  2. Mae un pwynt yn gyfwerth ag un geiniog o ran gwerth
  3. Caiff pwyntiau eu hychwanegu at Gerdyn Teyrngarwch dilys wrth brynu cynnyrch yn ein siopau manwerthu AAC sy'n cymryd rhan yn y cynllun yn unig.
  4. Mae'n bosibl y byddwn yn newid nifer y pwyntiau y byddwch yn eu casglu wrth brynu cynnyrch sy'n rhan o'r Cynllun Gwobrwyo gan eich hysbysu'n briodol.
  5. Mae'n bosibl y byddwn, o bryd i'w gilydd, yn rhoi cyhoeddusrwydd ar ein gwefan, sef www.ambiwlansawyrcymru.com, i hyrwyddiadau arbennig lle y gallwch gasglu pwyntiau ychwanegol.
  6. Ac eithrio amgylchiadau lle nad yw ein System Man Gwerthu Electronig yn gweithio neu fod methiant arall o ran y system, lle na fydd pwyntiau yn cael eu hychwanegu wedi i'r system gael ei chywiro, caiff pwyntiau eu hychwanegu at eich cyfrif ar unwaith fel arfer. Nid ydym yn atebol am unrhyw bwyntiau nad ydynt wedi cael eu hychwanegu at eich cyfrif o ganlyniad i fethiant yn y system.

Cyfnewid Pwyntiau

  1. Gellir cyfnewid unrhyw bwyntiau Cerdyn Teyrngarwch a gasglwyd gennych yn y man gwerthu (e.e bydd 100 o bwyntiau yn gyfwerth â £1 o dalebau).
  2. Bydd pwyntiau yn union gyfwerth â phwyntiau ar eich cyfrif ar adeg y cyfrifo (e.e. bydd 132 o bwyntiau yn gyfwerth â £1.32 o dalebau).
  3. Caiff pwyntiau sydd wedi bod yn eich meddiant ers dwy flynedd a heb gael eu cyfnewid eu fforffedu ac ni ellir eu cyfnewid am dalebau (yn ôl disgresiwn AAC).
  4. Ni fyddwn yn cyfnewid pwyntiau oddi ar Gardiau Teyrngarwch na thalebau am arian parod ac nid oes gwerth ariannol i bwyntiau na thalebau.
  5. Gellir defnyddio pwyntiau fel rhan o daliad neu fel taliad llawn am nwyddau yn siopau manwerthu AAC sy'n cymryd rhan yn y cynllun. Wrth i bwyntiau gael eu defnyddio i dalu am ran o'r trafodiad, dim ond ar falans y trafodiad y caiff pwyntiau eu cyflwyno. Nid ydych yn gymwys i gael pwyntiau ychwanegol wrth i chi ddefnyddio eich pwyntiau i dalu am nwyddau.
  6. Ceidw AAC yr hawl, ar hysbysiad, i (i) newid y rheolau lle y caiff pwyntiau eu cyfnewid; (ii) y misoedd y caiff pwyntiau eu cyfnewid; a (iii) yr amlder y caiff pwyntiau eu cyfnewid.

Pwyntiau Teyrngarwch

  1. Gellir ond defnyddio eich pwyntiau Teyrngarwch i brynu nwyddau yn siopau manwerthu AAC sy'n cymryd rhan yn y cynllun.
  2. Mae'n bosibl y rhoddir cyfyngiadau ar y defnydd o bwyntiau. Mae'n bosibl y bydd angen i chi gyflwyno eich Cerdyn Teyrngarwch wrth ddefnyddio eich pwyntiau.

Dychwelyd nwyddau

Os byddwch yn penderfynu dychwelyd unrhyw nwyddau y gwnaethoch dalu amdanynt ag arian parod ac y rhoddwyd pwyntiau i chi ar eich Cerdyn Teyrngarwch amdanynt neu y defnyddiwyd y cerdyn i dalu am y nwyddau, a'i fod yn cael ei dderbyn gennym o fewn ein Polisi Dychweliadau, byddwn yn didynnu unrhyw bwyntiau a gasglwyd gennych wrth i chi brynu'r nwyddau oddi ar eich Cerdyn Teyrngarwch.