Mae cymorth gan fusnesau yn rhan allweddol o godi arian yn Ambiwlans Awyr Cymru. Gall eich cwmni wneud gwahaniaeth mawr i bobl Cymru y mae angen gofal arbenigol arnynt ar frys. Drwy gefnogi AAC byddwch yn helpu i achub bywydau.


Fan fydd rhywun yn wynebu anaf sy’n bygwth bywyd neu a allai olygu bod yn rhaid iddo golli braich neu goes, rydym yma i ddarparu gofal critigol brys er mwyn amddiffyn bywyd dynol.

Rydym yn gwasanaethu Cymru gyfan, felly ble bynnag y mae eich cwmni wedi'i leoli, rydym yn debygol o adnabod rhywun y bu angen ein help arno ers i ni lansio’r gwasanaeth yn ôl yn 2001.

Rydym yn darparu triniaeth i gleifion sydd wedi bod mewn gwrthdrawiadau ar y ffyrdd, trawma difrifol, neu sydd wedi dioddef argyfwng meddygol fel strôc neu drawiad ar y galon.

Gallwn gyrraedd unrhyw le yng Nghymru o fewn 20 munud, gan ddod â’r Uned Damweiniau ac Achosion Brys yn syth at y claf cyn iddo hyd yn oed gyrraedd yr ysbyty.


                                  

      Sut allwch chi helpu ni?                            Sut allem ni helpu chi?