Mae ein digwyddiad blynyddol poblogaidd yn ôl, ac ar gyfer her eleni rydym yn gofyn i gyfranogwyr o bob oed gerdded 100km ym mis Mai.

Y peth da am her rithiol Cerdded Cymru – gallwch gerdded 100km yng Nghymru unrhyw le, unrhyw bryd. Mae hefyd yn wych ar gyfer eich lles corfforol a meddyliol.

P'un a’i ydych chi'n cerdded, rhedeg, loncian, neu'n cwblhau'r pellter 100km gartref, byddwch chi'n helpu i gadw ein hofrenyddion yn yr awyr a'n Cerbydau Ymateb Cyflym ar y ddaear.

Mae mynediad i’r digwyddiad AM DDIM ond drwy godi arian drwy gydol yr her gallwch chi fachu rhai o nwyddau Cerdded Cymru eich hun! Codwch £50 i dderbyn crys-t neu £150 am fedal a chrys-t.

Cymerwch y cam cyntaf heddiw a chofrestrwch yma ar gyfer ein 100km ym mis Mai!

Sut mae cofrestru?

I gofrestru llenwch y ffurflen hon trwy Facebook - mae'n gyflym, yn hawdd ac yn caniatáu ichi greu tudalen codi arian yn syth.

Unwaith y byddwch wedi cofrestru, gallwch hefyd ymuno â'n grŵp Cerdded Cymru lle gallwch glywed straeon gan gyfranogwyr eraill a rhannu eich diweddariadau eich hun.

COFRESTRU HEDDIW


Dim Facebook ond dal eisiau ymuno? Peidiwch â phoeni, rydyn ni wedi rhoi sylw i chi.

Yn syml, crëwch dudalen JustGiving trwy'r ddolen hon a chychwyn ar eich her codi arian (byddwch yn dal i dderbyn crys-t a medal os byddwch yn codi'r symiau carreg filltir).


*Sylwch fod yn rhaid i chi gyrraedd y targed carreg filltir fel unigolyn ac nid sefydliad er mwyn derbyn medal neu grys-t. Os cwblhewch yr her fel mudiad dim ond un medal un crys-t fyddwch chi'n gymwys i'w gael.