Hofrenfa Caerdydd Rydym yn falch o alw Prifddinas Cymru yn gartref ’'n pedwerydd hofrennydd – Ambiwlans Awyr Cymru i Blant. Ym mis Awst 2018, gwnaethom ymgymryd â phrydles Hofrenfa Caerdydd ar ôl arwyddo cytundeb â deiliad blaenorol y brydles – Cyngor Caerdydd. Credir mai hwn yw’r tro cyntaf i elusen ambiwlans awyr gymryd rheolaeth weithredol o hofrenfa fasnachol. Bydd unrhyw elw a wneir yn yr Hofrenfa yn cefnogi ein cenhadaeth elusennol, a bydd unrhyw ddefnydd masnachol a wneir o’r safle bellach yn helpu i achub bywydau. Manage Cookie Preferences