Y llynedd, gwnaethom dreulio amser yn datblygu strategaeth newydd ar gyfer ein Helusen.

Roedd hyn yn hanfodol i ni. Pam? Gwnaethom ddathlu pen-blwydd y gwasanaeth yn 20 oed y llynedd ac roedd hi’n bwysig adolygu datblygiad cyflym Ambiwlans Awyr Cymru dros y ddau ddegawd diwethaf a chydnabod y ffaith ein bod yn elusen amlwg ac uchel ei pharch yng Nghymru erbyn hyn. Gwnaethom hefyd gydnabod y gallai pandemig byd-eang COVID-19 gael effaith sylweddol a pharhaol ar ein hymddygiad ariannol a chymdeithasol, ac y gallai hyn newid y ffordd y bydd pobl yn ein cefnogi yn y dyfodol.

Mae ein Strategaeth ar gyfer 2021-2026 yn ystyried y pwysau a’r galwadau newydd hyn ac yn croesawu datblygiadau newydd ym maes gofal brys. Byddwn hefyd yn monitro ein data yn barhaus er mwyn sicrhau ein bod yn darparu’r gwasanaeth mwyaf effeithlon ac effeithiol i bawb yng Nghymru.

Drwy gynnal adolygiad strategaeth ar yr adeg hollbwysig hon, rydym wedi cydnabod bod angen i ni adeiladu ar ein llwyddiannau a sicrhau bod y conglfeini ar gyfer ugain mlynedd arall o wasanaeth ar waith.


Sut wnes i helpu i lunio’r strategaeth newydd?

Ar ddechrau 2021, gwnaethom ofyn i chi am eich barn am Ambiwlans Awyr Cymru drwy gwblhau ein harolygon i gefnogwyr a gwirfoddolwyr.

Roedd yr hyn y gwnaethoch ei ddweud wrthym yn gyson ac yn glir. • • • • •

  • Rydych yn frwdfrydig dros eich cymuned leol.
  • Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn chwarae rôl bwysig a phenodol yn eich cymuned.
  • Rydych am i genedlaethau’r dyfodol fod yn rhan o’n Helusen, a chael budd ohoni.
  • Rydych yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi hunaniaeth Gymreig gref ein Helusen.
  • Rydych am weld gweithgarwch ymgysylltu a chynnwys sy’n canolbwyntio ar y gymuned, ynghyd â gwybodaeth am ein Helusen a’r gwasanaethau a gynigir gennym.

Beth wnaethoch chi gyda fy adborth?

Drwy eich atebion, rydych wedi chwarae rhan fawr yn y broses o lunio ein dyfodol.

Gwnaethom ystyried eich adborth gwerthfawr ac, ynghyd â swm sylweddol o waith ymchwil mewnol ac allanol a wnaed gan gydweithwyr ym mhob rhan o’r Elusen, rydym wedi creu wyth rhaglen benodol sy’n rhan o’n strategaeth newydd. Mae gan bob rhaglen amcan penodol ac rydym yn gobeithio y gallwch weld sut mae eich adborth wedi bod yn hanfodol i’n cynlluniau ar gyfer y dyfodol.

Dyma’r wyth rhaglen:

Ymgysylltu â Phobl Ifanc – Rydym am gyflwyno mentrau ymgysylltu â phobl ifanc er mwyn rhannu gwybodaeth, codi ymwybyddiaeth o’r elusen a’i gwerthoedd, ac annog cefnogaeth yn y dyfodol.

Cynaliadwyedd – Byddwn yn dangos ymrwymiad hirdymor i ymarfer moesegol, hyrwyddo agenda werdd a chynnal ein cyfrifoldeb a rennir ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Manwerthu – Byddwn yn rhoi portffolio manwerthu sy’n sicrhau’r cydbwysedd cywir rhwng cynhyrchu incwm a bod yn bresennol yn y gymuned.

Incwm – Byddwn yn sicrhau y gallwn barhau i ddarparu ein gwasanaeth achub bywydau drwy feithrin, datblygu a chynnal portffolio amrywiol o ffrydiau incwm cynaliadwy.

Digidol a Thechnoleg – Rydym am fod yn sefydliad a alluogir gan dechnoleg, y mae cyfathrebu a chysylltedd yn rhan greiddiol ohoni.

Pobl – Byddwn yn sefydliad cefnogol ar gyfer ein cyflogeion. Byddwn yn meithrin diwylliant cynhwysol a chydweithredol sy’n gwerthfawrogi cyfraniadau, yn cynnig cyfle cyfartal, yn galluogi pawb i wireddu eu potensial, ac yn sicrhau bod pawb yn cael eu trin â thegwch a pharch.

Darparu Gwasanaeth – Byddwn yn parhau i sicrhau y gallwch chi, bobl Cymru, gael gofal a roddir fel arfer mewn adrannau achosion brys, ble bynnag a phryd bynnag y bydd ei angen. Byddwn hefyd yn sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei ddarparu yn y ffordd fwyaf costeffeithiol, a bod eich rhoddion yn cael yr effaith fwyaf posibl ym mhob rhan o Gymru. Bydd ein Helusen yn chwilio am gyfleoedd i wella gofal cleifion a chanlyniadau i gleifion bob amser.

Uniondeb a Thryloywder – Byddwn yn ad-dalu’r ymddiriedaeth rydych chi, bobl Cymru, wedi ei rhoi ynom drwy fabwysiadu’r safonau moesegol uchaf posibl ac ymgorffori cynaliadwyedd a gwerth am arian ym mhopeth a wnawn.

Bydd ein hymrwymiad i’n Hunaniaeth Gymreig yn rhan o bob rhaglen. Byddwn bob amser yn cydnabod y gydberthynas unigryw sydd gennym â chi, gan ddathlu ein hunaniaeth genedlaethol a sicrhau bod ein gweithgareddau yn adlewyrchu anghenion yr holl gymunedau gwahanol a wasanaethir gennym ar yr un pryd. Un o werthoedd craidd Hunaniaeth Gymreig yw cynwysoldeb – rydym yma i bawb yn ein gwlad y mae angen ein help arnynt.


Beth sy’n digwydd nesaf?

O dan bob rhaglen bydd cyfres o brosiectau a fydd yn ein helpu i gyflawni popeth rydym newydd gyfeirio ato. Mae’r prosiectau hyn wrthi’n cael eu datblygu a byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am yr hyn sydd yn yr arfaeth a sut y gallwch gymryd rhan mewn rhifynnau o Helimeds yn y dyfodol.

Mae hwn yn gyfnod cyffrous i’n Helusen ac rydych wrth wraidd popeth a wnawn.

Diolch am eich cefnogaeth anhygoel.