Mae pawb yng Nghymru yn haeddu cyfle cyfartal i gael gofal critigol brys, lle bynnag y maent, pryd bynnag y mae ein hangen arnynt.

Ers i ni dechau ein gwasanaeth achub bywydau yn 2001, ein cenhadaeth yw darparu gwasanaeth 24 awr er mwyn i ni allu bod ar gael i'ch helpu ddydd a nos.

Ar hyn o fryd, rydym yn darparu gwasanaeth 12 awr, (8am – 8pm) sy'n costio £6.5 miliwn y flwyddyn. Bydd £1.5 miliwn ychwanegol bob 12 mis yn ein galluogi i ddarparu gwasanaeth 24/7 sy'n addas ar gyfer anghenion Cymru.

Yn ein barn ni, 2020 yw'r flwyddyn y byddwn yn gwireddu ein gweledigaeth.

Gyda'ch cymorth, gallwn gyflawni hyn gyda'n gilydd.






Yn ystod y gaeaf y llynedd ac eto eleni, mae'r ‘Car Gofal Critigol Cyfnos’ wedi bod yn gweithredu dros benwythnosau rhwng 2pm a 2am. Cafodd ei gyflwyno er mwyn helpu'r galw cynyddol am ofal brys yn Ne Cymru a oedd dan bwysau yn ystod misoedd y gaeaf, ac yn cynnwys yr un gofal o safon adran achosion brys â'r gwasanaeth dydd. 

Un claf a gafodd fudd o'r ‘Gwasanaeth Cyfnos’ yw Ellie Harris.

Ar ddechrau 2019, daeth hunllef pob rhiant yn wir i'r teulu Harris pan, yn sydyn, ar ôl cael annwyd arferol y gaeaf i bob golwg, roedd eu merch, Ellie (a oedd yn 13 mis oed) yn brwydro am ei bywyd.

Yn ystod y cyfnod byr rhwng ffonio 999 a'r meddygon yn cyrraedd cartref y teulu Harris yn Abercarn, roedd Ellie wedi cael dau ataliad ar y galon.

Derbyniwyd yr alwad ychydig ar ôl 8pm, pan oedd y Gwasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru presennol yn gorffen gweithio. Diolch byth, roedd y Car Cyfnos yn gweithredu.

Dysgwch mwy am stori Ellie yma.

Gyda'ch cymorth, gallwn gyflawni hyn gyda'n gilydd.


Please select a donation amount (required)
Set up a regular payment Donate