Cyhoeddwyd: 20 Mai 2024

Gwnaeth meddyg o Ogledd Cymru yr achubwyd ei bywyd yn dilyn damwain beic gwblhau Marathon Llundain er budd Ambiwlans Awyr Cymru er mwyn diolch i'r elusen.

Mae Helen Monk, sy'n 58 oed a'i chwaer Emma Lyons o Birmingham wedi codi swm anhygoel o £5,844 ar gyfer yr elusen.

Cafodd Helen ddamwain ddifrifol ar ei beic ym mis Awst 2020, wrth iddi seiclo i'r traeth gyda'i phlant. Roedd angen ymyriadau gofal critigol arni gan griw Ambiwlans Awyr Cymru, a oedd yn cynnwys gosod tiwb ynddi yn y fan a'r lle. Oherwydd i Helen golli gwaed o'r clwyfau ar ei hwyneb, rhoddwyd hi mewn coma bwriadol a chafodd ei hedfan i'r Ganolfan Trawma Mawr yn Stoke lle cafodd lawdriniaeth frys.

Mae elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn cael ei harwain gan feddygon ymgynghorol, ac mae'n mynd â thriniaethau o safon ysbyty at y claf ac, os oes angen, yn ei drosglwyddo'n uniongyrchol i'r ysbyty mwyaf priodol ar gyfer ei salwch neu ei anaf. I'r claf, gall hyn arbed oriau o gymharu â gofal safonol ac mae'n cynyddu'r tebygolrwydd y bydd yn goroesi ac yn gwella'n gynnar yn sylweddol. 

Darperir y gwasanaeth drwy bartneriaeth unigryw rhwng y Trydydd Sector a'r Sector Cyhoeddus. Mae’r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) yn darparu meddygon ymgynghorol ac ymarferwyr gofal critigol hynod fedrus gan y GIG sy’n gweithio ar gerbydau’r elusen.

Fel arfer byddai'r triniaethau a gafodd Helen ar ochr y ffordd ond ar gael mewn ysbyty yn unig.

Fel gwasanaeth ledled Cymru, bydd y criwiau ambiwlans awyr ymroddedig, waeth ble maent wedi'u lleoli, yn teithio ar hyd a lled y wlad i ddarparu gofal sy'n achub bywyd mewn argyfwng.

Ychwanegodd Emma, sy'n 48 oed ac yn fam i dri: "Mae'n amlwg bod Helen wedi gwella'n aruthrol, fe wnaeth hi redeg marathon wedi'r cyfan! Mae'r diolch am hyn yn bennaf i ymdrechion ardderchog tîm Ambiwlans Awyr Cymru a ddaeth ati ar y diwrnod hwnnw. Gwnaethant ofalu am Helen mor dda, gan gadw ei phlant yn dawel a rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf iddynt ar yr un pryd."

Mae angen i Ambiwlans Awyr Cymru godi £11.2 miliwn y flwyddyn i gadw ei hofrenyddion yn yr awyr a chadw ei gerbydau ymateb cyflym ar y ffordd.

Wrth fyfyrio ar bwysigrwydd y gwasanaeth sy'n achub bywydau a'r gefnogaeth y mae wedi'i chael, dywedodd Helen: "Rhedais Farathon Llundain am fod Ambiwlans Awyr Cymru wedi fy achub. Cefais diwb yn fy nghorff ar ochr y ffordd a chefais fy nghludo i'r ysbyty ganddynt, lle gwnaeth y llawfeddygon fy nhrwsio. Heb eu harbenigedd, ni fyddwn i yma heddiw! Rwy'n gwneud yn dda iawn ac yn gwerthfawrogi pob dydd a roddwyd yn rhodd i mi.

"Rwy'n gwerthfawrogi'r holl gymorth ariannol a'r gefnogaeth y mae pobl wedi ei roi. Mae'n hyfryd gweld bod cynifer o bobl yn credu mewn achos sydd mor werth chweil."

Mae Helen, sy'n edrych ymlaen at ddychwelyd i'w gwaith pan fydd hi'n gallu, wedi mwynhau rhedeg erioed, ac er nad oedd hi wedi cwblhau marathon o'r blaen, roedd hi bob amser am wneud un.

Dywedodd: "Roedd hyn yn esgus gwych i wynebu'r her a chodi arian ar gyfer achos gwych. Roedd y marathon yn wych!"

Gwrandawodd Helen, sydd â phedwar plentyn hŷn - un a redodd farathon Llundain gyda hi - ar gyngor Emma, ei chwaer, wrth hyfforddi ar gyfer y diwrnod mawr. Dywedodd Emma wrthi am ddilyn y cynllun roedd trefnwyr y marathon wedi'i ddarparu i'r llythyren.

Ychwanegodd Helen: "Nid oedd yn rhy llafurus ac roedd yn cynnwys cyfartaledd o redeg dair gwaith o bellteroedd amrywiol bob wythnos, gan gynyddu'r pellter yn raddol. Nid y rhedeg oedd y peth anoddaf o reidrwydd, ond rhedeg yn y tywyllwch rhwng mis Ionawr a mis Mawrth a oedd rhaid i chi ei wneud yn aml."

Drwy fyfyrio ar redeg y marathon 26.2 milltir, ychwanegodd Helen: "Roedd dechrau'r ras yn iawn tan Rotherhithe, yna roedd yn ymddangos fel pe bai'n ddiddiwedd cyn cyrraedd Canary Wharf.Ar ôl hynny roeddwn i'n gwybod mai dim ond tua 6 milltir oedd yn weddill, ac roedd golau ar ddiwedd y twnnel! Roedd rhan olaf y ras ar hyd y Mall tua'r diwedd, gan basio Palas Buckingham yn hyfryd ac yn groesawgar iawn!"

Dywedodd Debra Sima, Rheolwr Codi Arian Rhanbarthol Ambiwlans Awyr Cymru: "Llongyfarchiadau enfawr i Helen ac Emma ar gwblhau Marathon Llundain. Am gyflawniad i'r ddwy ohonynt, ac yn enwedig i Helen, sydd wedi wynebu cymaint ac am wynebu'r her enfawr er budd ein hachos. Gwnaethant godi swm anhygoel o £5,844 ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru. Mae Helen yn gwybod o brofiad pa mor hanfodol yw'r gwasanaeth hwn i bobl Cymru, a bydd yr arian yn mynd tuag at sicrhau y gall yr Elusen barhau i fod yno i wasanaethu pobl Cymru 24/7, yn union fel y gwasanaeth a ddarparwyd i Helen. Diolch yn fawr iawn.”

Os hoffech gefnogi Helen ac Emma, gallwch wneud hynny drwy noddi eu tudalen JustGivingwww.justgiving.com/page/emma-lyons-1707994370347