Bydd y Nadolig yn arbennig iawn i Jess a Jamie Howells eleni, am eu bod yn dathlu trydydd Nadolig eu mab Jack – rhywbeth roeddent wedi ofni na fyddent yn ei weld naw mis yn ôl wedi i Jack ddioddef anaf enfawr i'w ben. 

Ym mis Chwefror, daeth hunllef gwaethaf pob rhiant yn wir wrth i Jack, a oedd yn 13 mis oed, faglu a tharo ei ben ar y llawr. 

Roedd Jess, 29 oed, a Jamie, 36 oed, o Sir Gaerfyrddin yn credu ei fod wedi cael damwain arferol plentyn bach ac y byddai'n teimlo'n well ar ôl cael mwythau. Roedd greddf Jess yn dweud wrthi fod rhywbeth o'i le, ac yn fuan wedyn, roedd Jack yn ddryslyd ac yn flinedig. Penderfynodd y ddau gludo Jack i'r adran damweiniau ac achosion brys i gael ei archwilio.

Yn anffodus, yn ystod y daith i'r ysbyty, gwaethygodd cyflwr Jack yn gyflym a dechreuodd chwydu, felly ffoniodd ei rieni 999. Gwaethygodd ei gyflwr yn gyflym iawn. Roedd Jack yn parhau i chwydu ac roedd yn welw, yn llipa ac yn anymatebol. 

Cafodd Ymatebwyr Cyntaf Llanelli a pharafeddygon eu galw, ac oherwydd difrifoldeb cyflwr Jack, gwnaethant alw am gymorth Ambiwlans Awyr Cymru. 

Oherwydd y tywydd gwael y diwrnod hwnnw, roedd y timau gofal critigol yn gweithredu o fflyd yr Elusen o gerbydau ymateb cyflym yn hytrach na'r hofrenyddion. 
 
Wrth gyrraedd y teulu, roedd Dr Mike a'r Ymarferydd Gofal Critigol, Rhyan, yn poeni fod gan Jack waedlif ar yr ymennydd. Er mwyn amddiffyn ei ymennydd ac i sicrhau'r siawns orau bosibl o oroesi, rhoddodd y criw anesthetig cyffredinol i Jack, sef meddyginiaeth er mwyn helpu i geisio lleihau'r gwaedlif, a'i roi ar beiriant anadlu i reoli ei anadlu. 

Dywedodd Jess: “Roedd yr hyn roeddem ni fel rhieni yn ei brofi yn rhywbeth a fyddai ond yn digwydd mewn hunllef. Gwnaethom roi cusan iddo er mwyn gwneud yn siŵr ei fod yn gwybod ein bod ni yno, ac ar yr adeg honno gwelsom y peiriant anadlu newyddenedigol. Roedd Jack i'w weld yn fach ac yn fregus iawn.  

“Nid oedd yn bosibl i ni deithio gyda Jack, ond cawsom ein hebrwng gan yr heddlu. Doedden ni ddim yn gwybod os byddai'n goroesi a chawsom gyfle i ddweud hwyl fawr cyn cychwyn i'r ysbyty. Roedd y daith honno yn teimlo fel taith hiraf ein bywydau. 

“Dwi'n cofio pa mor oer roeddwn i oherwydd y sioc o hyd. Wrth gyrraedd Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd, doedden ni ddim yn gwybod a oedd ein bachgen bach wedi goroesi'r daith neu beidio.

“Roedd ystafell lawn o staff yno a oedd yn barod ac wedi paratoi i drin ein babi. Roedd Jack i'w weld yn fach iawn wrth gael ei gludo i mewn i'r ystafell ar wely maint oedolyn. Roedd wedi ei orchuddio gan nifer o diwbiau a gwifrau ac o edrych o bell roedd yn ymddangos eu bod yn cludo troli o gyfarpar. Ond roedd ein bachgen yn eu canol i gyd, yn brwydro am ei fywyd.”

Roedd Jack wedi dioddef gwaedlif mawr ar yr ymennydd ac wedi torri ei benglog ac roedd angen niwrolawdriniaeth frys arno. 

Dywedodd Jess: “Yn ffodus, roedd y llawdriniaeth yn llwyddiannus, ond doedd Jack heb ddod drwyddi'n llawn eto a chafodd ei drin yn yr uned gofal dwys. Doedden ni ddim yn gwybod p'un a fyddai Jack yn dioddef niwed hirdymor i'w ymennydd ai peidio.  
“I ddechrau, cawsom wybod ei fod yn debygol y byddai Jack yn cael ei lonyddu a'i roi ar beiriant anadlu am 72 awr er mwyn rhoi amser i'w ymennydd wella. 

“Ond, o fewn 48 awr, doedd dim angen llonyddu Jack na chael cymorth y peiriant anadlu ac roedd yn effro. Cymerodd amser hir i ddeffro'n iawn, ond y peth cyntaf a ddywedodd pan agorodd ei lygaid, er bod llinynnau ei lais wedi chwyddo oherwydd y peiriant anadlu, oedd ‘mam’. Roedd yn gymaint o ryddhad ei glywed yn siarad ac roeddwn i'n emosiynol am ei fod yn fy adnabod o hyd.
 
Aeth Jack yn ei flaen i ffynnu ac mae'n cyrraedd pob un o'i gerrig milltir. 

Dywedodd Jess: “Bydd mis Rhagfyr yn gyfnod prysur ac emosiynol. Byddwn yn dathlu pen-blwydd Jack ac ry'n ni wedi trefnu nifer o weithgareddau Nadoligaidd yn ogystal â dathlu Nadolig arbennig gyda'r teulu. Bydd y Nadolig eleni yn arbennig iawn.    

“Ni allwn ni oddef meddwl efallai na fydden ni wedi gallu dathlu pen-blwydd Jack yn ddwy oed na'r Nadolig. Gallai pethau fod wedi bod yn wahanol iawn i ni, ac ry'n ni'n ffodus iawn bod ein bachgen bach yn dal yma. Byddwn ni'n ddyledus am byth i Ambiwlans Awyr Cymru.

“Bydd Jack yn cael ei faldodi a bydd yn braf iddo gael treulio amser gyda'i ddwy lys-chwaer hefyd, ond rwy'n siŵr y byddwn ni'n myfyrio ar ba mor ffodus ydym ni hefyd.

“Mae Jack yn fachgen bach normal, sy'n hoff iawn o geir, trenau a hofrenyddion. Mae'n fachgen byrlymus a bob amser yn gwenu.”

Mae Jess a Jamie, o Drefach ger Cross Hands, wedi elwa ar Wasanaeth Ôl-ofal Ambiwlans Awyr Cymru, ac o gael siarad â'r Nyrs Cyswllt Cleifion, Jo Yeoman yn benodol. 

Dywedodd Jess: “Mae Jo wedi bod yn wych, ac mae wedi bod yn dda clywed beth ddigwyddodd, yn enwedig gan nad ydyn ni'n cofio fawr ddim. Mae'n wych bod Ambiwlans Awyr Cymru wedi bod yno i ni yn dilyn damwain Jack ac mae'r cymorth wedi fy helpu i ddod i dermau â'r hyn ddigwyddodd yn araf bach. Roedd yn braf cael cwrdd â Mike i ddweud diolch yn bersonol ac roedd yn gyfle iddo hefyd weld Jack.”

Dywedodd Jo Yeoman, Nyrs Cyswllt Cleifion: “Fy rôl i fel Nyrs Cyswllt Cleifion yw cefnogi cleifion a'u teuluoedd ar ôl digwyddiad sydyn iawn sy'n newid bywyd fel arfer. Dwi'n cyfarfod ac yn siarad â phobl anhygoel bob dydd; mae teulu Jack yn eu plith. 

“Fel arfer dim ond mewn ysbyty y byddai'r triniaethau a gafodd Jack ar gael, ond diolch i uwch glinigwyr Ambiwlans Awyr Cymru, cafodd driniaeth i achub ei fywyd ar y safle. 

“Rydym wrth ein bodd yn gweld pa mor dda mae Jack wedi gwella ac yn gobeithio y caiff Nadolig hudolus.” 

Darperir y gwasanaeth ambiwlans awyr yng Nghymru drwy bartneriaeth Trydydd Sector a Sector Cyhoeddus unigryw. Mae Elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn dibynnu ar roddion i godi'r £11.2 miliwn sydd ei angen bob blwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr a chadw'r cerbydau ymateb cyflym ar y ffordd. 

Mae’r Gwasanaeth Adalw a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) yn darparu meddygon ymgynghorol ac ymarferwyr gofal critigol y GIG sy’n gweithio ar gerbydau’r Elusen.  

Ychwanegodd Jess: “Does dim llawer o bobl yn sylweddoli mai Elusen yw Ambiwlans Awyr Cymru, ac er ein bod ni wedi ei chefnogi ers nifer o flynyddoedd, doedden ni fyth yn dychmygu y byddai'n rhaid i ni ddefnyddio'r gwasanaeth rhyw ddydd ac y byddai'n achub bywyd ein bachgen bach. 

“Mae Ambiwlans Awyr Cymru wedi rhoi'r rhodd orau erioed i ni y Nadolig hwn. Maen nhw wedi rhoi Jack i ni ac wedi sicrhau dyfodol iddo. 

“Er y byddwn ni'n treulio tymor y Nadolig gyda'n gilydd fel teulu, yn creu atgofion a allai fod wedi bod yn amhosibl heb yr Elusen, byddwn ni hefyd yn meddwl am y rhai hynny sy'n aberthu eu Nadolig i helpu eraill.”

Heddiw, mae'r Elusen wedi lansio ei Hapêl Nadolig, sef Dymuniad Nadolig Jack, y mae'r Teulu Howells yn ei chefnogi.

Dywedodd Jess: “O hyn ymlaen, pan fydd Jack yn edrych tuag at yr awyr i chwilio am Siôn Corn a'i geirw bob Noswyl Nadolig, bydd yn edrych am un o hofrenyddion Ambiwlans Awyr Cymru hefyd, gan wybod ei bod wedi helpu i achub ei fywyd. 

“Bydd nifer o blant yn gofyn am anrhegion gan Siôn Corn, ond dymuniad Jack yw y gall yr Elusen barhau i achub bywydau a helpu pobl y Nadolig hwn. 

“Helpwch Jack i wireddu ei ddymuniad Nadolig a chyfrannwch at y gwasanaeth achub bywydau hwn. Dydych chi byth yn gwybod pryd y bydd ei angen arnoch chi neu ar eich anwyliaid."

Os hoffech gefnogi'r Elusen a'i helpu i achub mwy o fywydau fel bywyd Jack y Nadolig hwn, gallwch gyfrannu drwy ymweld â walesairambulance.com/achristmaswish