Mae ffermwr ifanc a gafodd ofal critigol ar ôl bod mewn damwain wedi codi £9,000 i ddiolch i'r Elusen a helpodd i achub ei fywyd.

Trefnodd Calfyn Jones, sy'n 24 oed o Ddihewyd, Aberaeron, ddigwyddiad confoi o dractorau a cheir clasurol ac ocsiwn elusennol dilynol gyda chymorth ei gariad, Erin Thomas a'u teuluoedd.

Drwy'r digwyddiad, llwyddwyd i godi £9,000, a gafodd ei rannu rhwng Ambiwlans Awyr Cymru  a'r Ward Niwrowyddoniaeth Dibyniaeth Fawr yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.

Rhoddodd y ddau sefydliad ofal i Calfyn a achubodd ei fywyd pan gafodd anaf difrifol i'r ymennydd, yn dilyn damwain ar 6 Chwefror 2022.

Daeth dau ambiwlans awyr i helpu Calfyn, a chafodd ei gludo i'r  ysbyty yng Nghaerdydd lle treuliodd y 17 diwrnod nesaf yn gwella.

Dywedodd Anwen Jones, mam Calfyn: "Roedd am wneud rhywbeth i ddiolch i griw Ambiwlans Awyr Cymru am ei helpu, ac i ysbyty am ei helpu i wella.

“Roedd Calfyn yn lwcus iawn. Diolch i Ambiwlans Awyr Cymru, cafodd ofal critigol ar ochr y ffordd, a'r gofal hwn, yn fy marn i, wnaeth ei helpu i wella'n llawn. Byddwn ni'n ddiolchgar am yr help a'r cymorth a gafodd am byth." 

Cynhaliwyd y digwyddiad yn Neuadd Bentref Dihewyd a daeth y gymuned leol ynghyd i roi rhoddion i'r ocsiwn. Roedd stondinau bwyd ac adloniant ar gael hefyd, gan ei wneud yn ddiwrnod llawn hwyl i'r teulu cyfan. 

Mae Calfyn, sy'n gweithio fel contractwr amaethyddol a gwneuthurwr dur, wedi bod â diddordeb mewn digwyddiadau ceir clasurol a thractorau ers blynyddoedd, ac roedd yn gwybod y  byddai'n ffordd dda o godi arian.

Hysbysebodd y digwyddiad ar Facebook ar yn y gymuned leol ac roedd wrth ei fodd gyda'r holl gefnogaeth. 

Dywedodd: "Pan oeddwn i'n gwella ar ôl y ddamwain, penderfynais fy mod i am gynnal digwyddiad a gwneud rhywbeth i helpu Ambiwlans Awyr Cymru. Rwy' wedi cymryd rhan mewn taith tractorau o'r blaen ac mae'n rhywbeth rwy'n mwynhau ei wneud, a gwnaethon ni benderfynu cynnwys ceir clasurol hefyd. Allwn i ddim credu'r ymateb cadarnhaol; daeth pawb at ei gilydd i helpu. 

"Roedd gennym ni 45 o dractorau a thua 60 o geir, ac roedd gennym ni wirfoddolwyr o'r gymuned yn gwylio'r ffyrdd ac yn helpu gyda'r llif traffig. Dydw i ddim yn meddwl bod ein pentref bach ni wedi gweld dim byd o'r fath o'r blaen!

"Hwn oedd y digwyddiad cyntaf i mi ei drefnu erioed, ac roedd pawb mor garedig yn rhoi o'u hamser ac yn rhoi gwobrau i'r ocsiwn, o hamperi, talebau bwytai, profion MOT, cacennau, ac ati. Roedd rhywbeth at ddant pawb. 

"Roeddwn i wrth fy modd ein bod ni wedi codi £9,000 ar gyfer yr Elusen, a doeddwn i ddim yn gallu credu peth pan oedden ni'n cyfrif popeth. Er mai pentrefi bach ydyn ni fan hyn, mae pawb yn dod at ei gilydd i gefnogi ei gilydd."

Wrth siarad am ei ddamwain, dywedodd Calfyn ei fod yn ddiolchgar iawn i bawb a wnaeth ei helpu, ac er bod y broses wella wedi bod yn un araf a sefydlog, mae bellach yn byw bywyd i'r eithaf. 

Dywedodd: "Rwy' bob amser wedi cefnogi Ambiwlans Awyr Cymru; mae'n achubiaeth, yn enwedig i ffermwyr mewn cymunedau gwledig. Mae'n elusen sy'n agos iawn at fy nghalon, a bydd yn parhau felly am byth. Hebddi, fyddwn i ddim yma heddiw. 

"Rwy' wedi cael ail gyfle ac rwy'n ddiolchgar fy mod yn gallu cynnal digwyddiadau fel hyn a chodi arian ar gyfer yr Elusen, oherwydd gallai pethau fod wedi bod yn wahanol iawn."

Mae Calfyn eisoes yn cynllunio digwyddiad arall ar gyfer y gwanwyn nesaf.

Darperir y gwasanaeth ambiwlans awyr yng Nghymru drwy bartneriaeth Trydydd Sector a Sector Cyhoeddus unigryw. Mae Elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn dibynnu ar roddion i godi'r £11.2 miliwn sydd ei angen bob blwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr a chadw'r cerbydau ymateb cyflym ar y ffordd. 

Mae’r Gwasanaeth Adalw a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) yn darparu meddygon ymgynghorol ac ymarferwyr gofal critigol y GIG sy’n gweithio ar gerbydau’r Elusen.